FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cymorth i Deuluoedd

Sicrhewch eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau, grantiau a help ariannol arall sydd ar gael i deuluoedd.

Cefnogi Pobl

Mae gan Cefnogi Pobl wasanaethau sydd ar gael i bob teulu a all eu helpu i gael gafael ar gymorth ariannol. Ewch i dudalen we  Cefnogi Pobl i gael manylion.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerffili

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cael ei ddarparu gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili ac mae’n darparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim i BOB rhiant/gofalwr plant a phobl ifanc rhwng 0-20 oed a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw. P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod rhagor am addysg y blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ar ôl ysgol yn eich ardal neu dim ond angen ychydig o gymorth ychwanegol i fod yn rhiant da, mae help ar gael.

Ewch i wefan y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili am ragor o wybodaeth.

Cymorth ariannol ar gyfer addysg

Mae pob math o gymorth ariannol ar gael i rai myfyrwyr a rhieni plant o oedran ysgol iau. Mae manylion ar ein gwefannau cymorth ariannol ar gyfer Addysg.

Credydau Treth

Mae’n bosibl y gallwch gael help gyda chostau gofal plant os ydych chi’n defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 3003900 neu ewch i'r wefan.

Talebau gofal plant

Mae costau gofal plant yn un o'r costau mwyaf y mae teuluoedd yn eu talu. Ond, mae’n bosibl arbed ar gostau gofal plant drwy gynllun talebau y gallai eich cyflogwr fod yn ei gynnig.

I weld a allwch fanteisio arno, ac i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio, cysylltwch â’ch cyflogwr neu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Cysylltiadau defnyddiol eraill

  • Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-dal Plant yn cynnig taliadau di-dreth y gallwch eu hawlio i’ch plentyn, sydd ar gael i bawb sy’n gymwys waeth beth fo’u hincwm neu eu cynilion. Ffoniwch 0845 302 1444.
  • Y Comisiwn Gorfodi Cynhaliaeth Plant  - Mae’r Comisiwn yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol newydd a sefydlwyd i fod yn gyfrifol am y system cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.
  • Turn to us national charity that helps people in financial hardship gain access to welfare benefits, charitable grants and support services.