FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Ffyrdd o dalu eich rhent – ar gyfer deiliaid contract y Cyngor

Drwy Ddebyd Uniongyrchol

Rydyn ni'n annog deiliaid contract i dalu eu rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Bydd talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn arbed cryn dipyn o amser ac ymdrech i chi. Mae hynny gan nad oes angen ysgrifennu sieciau, does dim gwaith papur a dim costau postio, ac nid oes angen ciwio gan ein bod yn gallu trefnu eich taliadau ar eich rhan gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Mae’n fwy diogel na defnyddio arian parod hefyd, ac ar ben hyn, os byddwch yn newid eich dull talu i Ddebyd Uniongyrchol cewch daliad untro o £20, a gredydir i’ch cyfrif rhent. Caiff y Debyd Uniongyrchol ei gymryd yn fisol mewn ôl-daliadau ar ddiwrnod gwaith olaf bob mis.

I gael ffurflen Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’r Adran Rhenti neu lawrlwythwch ffurflen isod.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Adran Rhenti
Llawr 4
Ty Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Ffurflen Debyd Uniongyrchol Rhent Tai (PDF)

Ar-lein

Gallwch dalu eich rhent yn ddiogel ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Bydd angen eich rhif cyfrif rhent arnoch, a bydd angen i chi wybod faint rydych am ei dalu.

Talu eich rhent ar-lein

Dros y ffôn

Y rhif ffôn awtomatig 24 awr y dydd ar gyfer talu â cherdyn credyd neu ddebyd yw 01443 863366. Bydd angen i chi wybod eich rhif cyfrif rhent a’r swm rydych am ei dalu i wneud hynny. Os hoffech siarad â chynghorydd i wneud taliad, ffoniwch 01443 866570. Llinellau ar agor 08:30-17:00 – Dydd Llun i ddydd Iau, 08:30-16:30 Dydd Gwener

Swyddfa bost

Gallwch hefyd dalu yn y swyddfa bost. Cliciwch yma am fanylion ar sut i wneud cais am gerdyn swyddfa bost neu ffoniwch 01443 866583.

Drwy'r post

Gellir talu â siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’. Nid ydym yn derbyn sieciau ôl-ddyddiedig na sieciau trydydd partïon.

Dylid anfon taliadau i’r cyfeiriad canlynol:

Swyddfa Arian Parod
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed CF82 7PG

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post a nodwch rif eich cyfrif rhent ar gefn y siec neu’r archeb bost.

Help gyda'ch rhent

Os ydych chi o oedran gweithio, ar incwm isel ac angen help gyda'ch costau rhentu (a ddim yn derbyn budd-dal tai ar hyn o bryd), bydd angen i chi gyflwyno cais am Gredyd Cynhwysol gyda'r DWP

Rydych chi dal yn gallu hawlio Budd-dal Tai os ydych chi'n bensiynwr, neu os ydych chi'n byw mewn llety â chymorth. 

Mewn rhai amgylchiadau gall y rhai sy’n derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gyda’u rhent trwy wneud cais am Daliad Tai Dewisol.

Cysylltwch â'n tîm cymorth tai i drafod hyn.

Oes problemau o ran talu eich rhent?

A yw costau byw cynyddol neu ostyngiad mewn incwm yn ei gwneud yn anodd i chi gynnal eich taliadau rhent?

Mae'r contract rydych yn ei lofnodi yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu eich rhent yn rheolaidd a pheidio â mynd i ôl-ddyledion. Os na fyddwch yn talu eich rhent ar amser neu os nad ydych yn talu o gwbl efallai y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol a allai arwain at golli eich cartref. Cofiwch ein bod ni yma i helpu!

Ewch i'n tudalen am ragor o wybodaeth a chyngor.

  • Ar gyfer deiliaid contract Cyngor Caerffili tecstiwch RENTHELP i 81400

  • Ar gyfer pob deiliad contract arall a pherchennogwyr tŷ, tecstiwch HOUSUPPORT i 81400

Cysylltwch â ni