FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Talu eich bil ardrethi busnes

Mae yna nifer o wahanol ddulliau talu y gallwch chi eu defnyddio:

Debyd Uniongyrchol

Sefydlu debyd uniongyrchol

Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf o dalu eich ardrethi busnes. Unwaith y bydd y taliad wedi ei sefydlu, ni fydd rhaid i chi wneud unrhyw beth. Gallwch ddewis talu bob mis ymlaen:

  • 5ed, 15fed, 25ain dros 10 neu 12 mis

Ar-lein

Talu ar-lein

Mae’n rhwydd ac yn ddiogel i dalu ar-lein.  Rydym yn derbyn y cardiau canlynol: Maestro UK, Debyd MasterCard, Debyd Visa (Delta, Electron), Credyd Visa a Chredyd MasterCard.

Dros y ffôn

Gallwch dalu biliau a thaliadau dros y ffôn 24 awr y dydd gan ddefnyddio ein llinell daliad awtomatig ac unrhyw un o'r cardiau canlynol

  • Maestro UK
  • MasterCard Debit
  • Visa Debit (Delta, Electron)
  • Visa Credit
  • MasterCard Credit

Ffôn 01443 863366

Swyddfa bost

Gwneud cais am gerdyn swyddfa bost

Gellir defnyddio cerdyn Swyddfa’r Post i dalu am:

  • Treth y Cyngor
  • Rhent Tai
  • Ardrethi Busnes
  • Gordaliadau Budd-daliadau Tai
  • Anfonebau eraill (drwy gytundeb ymlaen llaw)

Gallwch wneud taliad mewn unrhyw Swyddfa’r Post gan ddefnyddio'ch cerdyn.

Gall cardiau gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i'w dosbarthu, rhaid i chi barhau i wneud taliadau drwy ddull arall nes i chi dderbyn eich cerdyn.

Bancio Symudol

Bydd angen y manylion canlynol arnoch:

  • Eich rhif cyfrif Treth y Cyngor sydd ar eich bil
  • Rhif ein cyfrif banc 83532550
  • Ein Cod Didoli 20-10-42
  • Enw ein cyfrif yw ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’

Tudalennau perthynol
 

Gwybodaeth ategol ar gyfer eich bil