Gwaith atgyweirio gan lesddeiliaid

Cyfrifoldeb am waith atgyweirio

Os ydych yn lesddeiliad y Cyngor, dan amodau eich les, ni, sef y rhydd- ddeiliad, sy’n gyfrifol am atgyweirio strwythur ac adeiladwaith allanol eich bloc o fflatiau.

Chi, sef y lesddeiliad, sy’n gyfrifol am atgyweirio’r tu mewn i’ch fflat. Mae manylion hyn ar gael i’w lawrlwytho isod.

Llawlyfr Lesddeiliaid (PDF)

I roi gwybod am waith atgyweirio ewch i’r adran sut i roi gwybod am waith atgyweirio.

Codi tâl am waith atgyweirio

Dan delerau eich les, chi sy’n gyfrifol am gyfrannu cyfran gyfartal tuag at gostau gwaith atgyweirio a gyflawnir gennym ni i strwythur ac adeiladwaith allanol eich bloc o fflatiau. Rydym yn archwilio’r holl waith atgyweirio rydym yn codi tâl amdano ar lesddeiliaid. Byddwn yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig am y costau amcangyfrifedig yn chwarterol.

Codir tâl arnoch am waith atgyweirio yn eich bil tâl gwasanaeth blynyddol a anfonir atoch ym mis Awst/Medi bob blwyddyn fel arfer.

Gwelliannau Safon Ansawdd Tai Cymru - ymgynghoriad

Rydym yn cyflawni gwaith i sicrhau bod ein holl eiddo yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2019/2020. Pan fyddwn yn cyflawni gwaith allanol, bydd hyn yn effeithio ar lesddeiliaid. Ewch i adran cynllun gwella SATC am fanylion.

Cyflawnir gwaith yn dilyn arolwg o’r eiddo, a bydd y Cyngor yn ymgynghori â lesddeiliaid o ran y math o waith a’r costau amcangyfrifedig yn unol â’r gweithdrefnau ymgynghori statudol.

Caniatâd ar gyfer gwelliannau 

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd rhai lesddeiliaid yn dymuno gwneud eu gwaith gwella eu hunain.

Cyn gwneud unrhyw waith ar eich fflat, cysylltwch â’ch Swyddog Gwasanaethau Lesddeiliaid oherwydd mae’n bosibl y bydd angen i ni roi caniatâd i chi ddechrau’r gwaith. Ambell waith rydym yn gwrthod rhoi caniatâd i wneud gwaith a fyddai’n achosi problem yn ein barn ni.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am fod yn lesddeiliad, cysylltwch â’ch Swyddog Gwasanaethau Lesddeiliaid.

Cysylltwch â ni
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad