Tai amlfeddiannaeth

Mae nifer o dai rhent preifat yn y fwrdeistref sirol yn dai amlfeddiannaeth.

Beth yw Tai Amlfeddiannaeth?

O dan y newidiadau yn Neddf Tai 2004, Tŷ Amlfeddiannaeth yw un o’r mathau canlynol o eiddo sy’n cael ei osod neu ei feddiannu: 

  • Tŷ neu fflat cyfan sy’n cael ei roi ar osod i dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
  • Tŷ sydd wedi’i addasu’n llwyr i fod yn fflatiau un ystafell neu lety arall nad yw’n hunangynwysedig ac sy’n cael ei roi ar osod i dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
  • Tŷ a addaswyd sy’n cynnwys un neu fwy o fflatiau nad ydynt yn gwbl hunangynwysedig (nid yw’r fflat yn cynnwys ei gegin, ei ystafell ymolchi a’i doiled ei hun) ac sy’n cael ei roi ar osod i dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
  • Adeilad sydd wedi’i addasu’n llwyr i fod yn fflatiau hunangynwysedig os nad oedd y gwaith addasu yn cyrraedd safonau Rheoliadau Adeiladu 1991 a bod mwy nag un o bob tri o’r fflatiau ar osod ar denantiaethau byrdymor.

Er mwyn bod yn Dŷ Amlfeddiannaeth, rhaid i’r eiddo gael ei ddefnyddio fel unig neu brif breswylfa’r tenantiaid, a dylid ei ddefnyddio dim ond neu’n bennaf fel llety tenantiaid. Caiff eiddo sy’n cael eu gosod i fyfyrwyr a gweithwyr mudol eu trin fel eu hunig neu brif breswylfa, a bydd yr un trefniadau’n gymwys i eiddo a ddefnyddir fel llochesi domestig.

Rhaid i’r cartrefi hyn gydymffurfio â’r un safonau diogelwch cyffredinol o ran eu meddiannu â phob eiddo arall, fodd bynnag, mae rhai gofynion ychwanegol penodol yn angenrheidiol.

Bob hyn a hyn bydd ein tîm tai sector preifat yn archwilio’r holl Dai Amlfeddiannaeth y gwyddom amdanynt yn y fwrdeistref sirol, ac mae ganddynt gyfrifoldeb i sicrhau bod pob agwedd ar yr eiddo yn ddiogel, wedi’i diogelu rhag tân ac yn addas i’w meddiannu.

Os ydych yn landlord neu’n denant Tŷ Amlfeddiannaeth a bod angen cyngor arnoch ar eich eiddo, cysylltwch â’r is-adran tai sector preifat.

Trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth

Mae’n ofynnol i rai Tai Amlfeddiannaeth penodol gael eu trwyddedu gan y Cyngor, fodd bynnag, prin iawn yw’r tai o’r fath yn y fwrdeistref sirol. Dim ond Tai Amlfeddiannaeth sy’n dri llawr neu fwy o uchder ac sy’n gartref i 5 tenant neu fwy, o 2 deulu neu fwy, y mae angen eu trwyddedu I wneud cais am drwydded ewch i’r wefan trwydded tai amlfeddiannaeth.

Cofrestr gyhoeddus Tai Amlbreswyl (TAB)

Yn ôl Deddf Tai 2004, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr gyhoeddus o adeiladau a drwyddedir fel TAB.

Cofrestr gyhoeddus Tai Amlbreswyl (TAB)

Diogelwch tân

Mae rheoliadau diogelwch tân wedi newid yn ddiweddar, a bellach mae’n ofynnol i berchenogion rhai mathau penodol o fusnesau sicrhau nad yw eu safleoedd yn cynnwys unrhyw beth sy’n peri’r risg o dân. Mae’r rheoliadau newydd yn cynnwys ardaloedd cymunedol adeiladau fflatiau deulawr, fflatiau a thai amlfeddiannaeth.

Diogelwch tân tai – canllaw cyfeirio (PDF 59kb)

Housing fire safety – full guide (PDF 1.6mb)

Lluniwyd cyfres o ganllawiau i helpu i esbonio’r gofynion i landlordiaid a sicrhau bod eu tenantiaid a’u heiddo wedi’u diogelu’n briodol.

Rheoli Tai Amlfeddiannaeth

Os ydych yn rheoli Tai Amlfeddiannaeth dylech fod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau cyfreithiol a’r hyn y bydd angen i chi ei wneud i ofalu am eich eiddo a’ch tenantiaid.

Ceir dau fath o Reoliadau Rheoli yng Nghymru ac mae angen i chi gydymffurfio â’r rhain yn ogystal ag unrhyw  ofynion trwyddedu a all fod yn gymwys, neu beidio, i’ch Tai Amlfeddiannaeth.

Mae Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 yn gymwys i Dai Amlfeddiannaeth ‘Adran 257’, sef: adeiladau a addaswyd i fod yn fflatiau hunangynwysedig, ond nad ydynt yn cyflawni gofynion Rheoliadau Adeiladu 1991 a lle bo llai na dwy ran o dair o’r fflatiau wedi’u meddiannu gan berchen-feddiannydd.

Mae Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 yn gymwys i fathau eraill o dai amlfeddiannaeth (e.e. tai a rennir ac adeiladau fflatiau un ystafell sy’n cynnwys rhai fflatiau hunangynwysedig yn ogystal â llety a rennir).

Mae’r ddwy gyfres o reoliadau yn cynnwys yr un math o ofynion:

  • rhoi gwybodaeth i feddianwyr,
  • cadw’r llety’n ddiogel, yn lân ac mewn cyflwr da o ran gwaith atgyweirio
  • sicrhau bod y mesurau a’r rhagofalon diogelwch tân yn cael eu cynnal
  • cynnal cyflenwadau diogel o ddŵr, cyfleusterau draenio, nwy a thrydan
  • gofalu am ardaloedd cyffredin, gosodiadau cyffredin ac offer cyffredin
  • darparu cyfleusterau gwaredu gwastraff.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhoi cyfrifoldebau i feddianwyr i alluogi’r rheolwr i gael mynediad rhesymol i’r eiddo; peidio ag atal y rheolwr rhag cyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol; rhoi gwybodaeth berthnasol yn unol â chais y rheolwr a storio a gwaredu gwastraff yn briodol yn unol â chyfarwyddyd y rheolwr.

Gallwch hefyd lawrlwytho copïau o’r Rheoliadau yn www.legislation.gov.uk/.

Cysylltwch â ni