Help gyda’ch contract meddiannaeth

Rydym yn ymrwymedig i helpu i wella amodau byw deiliaid contract tai sector preifat a chymdeithasau tai drwy sicrhau bod eiddo yn ddiogel.

Lle y bo’n bosibl, rydym yn cydweithio â pherchenogion eiddo o’r fath i’w cynghori a’u hysbysu am y camau y gellir eu cymryd i sicrhau eu bod yn cyflawni ac yn cynnal safonau eiddo addas.

Fodd bynnag, mewn achosion lle nad yw’r landlord yn cydweithio â ni, a bod yr eiddo yn dal i fod mewn cyflwr ‘anniogel’ neu ‘beryglus’, byddwn yn cymryd camau ffurfiol yn erbyn y perchennog.

Dylai pob annedd gynnig amgylchedd diogel ac iach i’r deiliaid presennol a’i deiliaid yn y dyfodol. Mae hyn yn ymwneud â chyflwr y strwythur, adeiladau allanol, gerddi neu ierdydd cysylltiedig a/neu fannau amwynderau a mynediad.

Mae gwefan GOV.UK yn cynnwys gwybodaeth am rentu preifat, gan gynnwys eich hawliau a’ch cyfrifoldebau, gwaith atgyweirio, cynnydd o ran pris y rhent, ôl-ddyledion rhent ac anghydfod ynghylch rhent. 

Am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â’r is-adran tai sector preifat.

Cysylltwch â ni