Cynllun achub morgeisi

Gall y Cynllun Achub Morgeisi eich helpu os ydych yn berchen-feddiannydd sy’n cael anawsterau â’ch morgais neu os gallai eich tŷ gael ei adfeddiannu.

Sut mae’n gweithio

Os ydych yn gymwys i gael cymorth, byddwn yn trosglwyddo eich manylion i Gymdeithas Dai a all roi benthyciad ecwiti i chi er mwyn lleihau eich taliadau morgais neu, os nad yw hynny’n addas, gallwn ymchwilio i’r posibilrwydd o brynu eich cartref.

Byddwch yn parhau i fyw yno fel tenant sy’n talu rhent i’r Gymdeithas Dai, sydd wedi’i chofrestru â Llywodraeth Cymru. Prin yw’r cyllid sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn, felly ni fydd yn bosibl i ni roi cymorth i bawb. Rhoddir help i’r rheini sy’n wynebu’r angen mwyaf.

A yw’r cynllun hwn yn addas i chi?

Nid yw’r Cynllun Achub Morgeisi yn addas i bawb. Mae’n bosibl y gellid gwella eich sefyllfa o ran taliadau morgais heb fod angen i chi werthu eich cartref. Os ydych yn cael anawsterau o ran talu eich morgais, rhaid i chi siarad â’ch benthyciwr a chael cyngor annibynnol i gael gwybod pa ddewisiadau sydd ar gael i chi cyn gynted â’ch bod yn meddwl y gallai fod problem. Gall sefydliadau fel Shelter neu’r Swyddfa Cyngor ar Bopeth eich helpu.

Pwy all wneud cais?

I wneud cais am y cynllun Achub Morgeisi, rhaid i chi fod yn wynebu’r amgylchiadau canlynol:

  • Perygl y gallai eich cartref gael ei adfeddiannu. Hynny yw, bod eich benthyciwr wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol i adfeddiannu eich cartref;
  • Byddwch yn ddigartref os caiff eich cartref ei adfeddiannu;
  • Eich eiddo chi yw eich unig breswylfa neu eich prif breswylfa;
  • Nid oes unrhyw resymau cyfreithiol dros beidio â gwerthu eich cartref; ac
  • Nid ydych yn gallu gwerthu eich cartref a phrynu cartref rhatach yn yr ardal leol.

Rhoddir blaenoriaeth i deuluoedd ac unigolion sy’n byw mewn tai a addaswyd yn arbennig.

Os ydych yn gymwys, bydd y Gymdeithas Dai yn ystyried lefel eich dyledion, cost prynu eich cartref ac unrhyw waith atgyweirio neu unrhyw waith arall sy’n ofynnol. Mewn rhai achosion, ni fydd yn bosibl parhau â’ch cais os yw’r costau’n rhy uchel i wneud hynny’n ymarferol. Nid oes unrhyw hawl gennych i gael cymorth gan y cynllun Achub Morgeisi, ond rhoddir rheswm i chi i esbonio pam nad yw’n bosibl derbyn eich cais.

Beth ddylech chi ei wneud nesaf? 

Os ydych o’r farn y gallai’r Cynllun Achub Morgeisi eich helpu, dylech gysylltu â ni yn yr Is-adran Cyngor ar Dai. Byddwn yn asesu eich sefyllfa, ac yna’n anfon eich manylion i Gymdeithas Dai a allai eich helpu.

Fel arall, gallwch gysylltu â Shelter Cymru ar 029 2055 6120 a byddant yn anfon eich manylion i ni.

I gael cyngor annibynnol ar dai

I gael cyngor ar dai a gwasanaethau cymorth ffoniwch Shelter Cymru ar 0845 075 5005 neu ewch i wefan Shelter Cymru.

Mae cyngor ar gael gan eich Swyddfa Cyngor ar Bopeth leol hefyd.

Contact us