Cynnwys deiliaid contract
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod deiliaid contract (tenantiaid) yn cael dweud eu dweud o ran penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, eu cartrefi a'r ardaloedd maen nhw'n byw ynddyn nhw. Rydyn ni am rymuso deiliaid contract i gymryd rhan ar lefel sy'n addas iddyn nhw. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Mae Cartrefi Caerffili wedi ymrwymo i'ch cynnwys chi wrth ddatblygu a siapio gwasanaethau tai yn y dyfodol. Hoffech chi rannu eich barn er mwyn i ni sicrhau bod deiliaid contract yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn? Mae rhai o'r ffyrdd rydyn ni'n gwneud hyn wedi'u rhestru isod:
Cyfleoedd wyneb yn wyneb presennol
- Cyfnewid Gwybodaeth – Sesiwn anffurfiol yw hon lle gall deiliaid contract ddarganfod rhagor am sut mae Cartrefi Caerffili a deiliaid contract yn gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau tai. Mae hefyd yn gyfle da i gwrdd â deiliaid contract eraill a sgwrsio â nhw. Cysylltwch â ni i gael gwybod pryd mae'r cyfarfod nesaf.
- Partneriaeth Gwella Tai (HIP) – Mae'r Bartneriaeth Gwella Tai yn cynnwys grŵp o denantiaid sydd am weithio gyda ni i wella gwasanaethau tai. Nid oes angen unrhyw sgiliau arbenigol. Y cyfan sydd ei angen yw eich gwybodaeth a'ch profiad fel deiliad contract Cartrefi Caerffili. Os gallwch chi roi ychydig oriau'r mis am 6 mis o'r flwyddyn, cysylltwch â ni. Bydd costau rhesymol yn cael eu talu.
Cyfleoedd ar-lein
Arolygon – Arolygon ar-lein neu ar bapur i gasglu barn ar wahanol wasanaethau tai. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb mewn arolygon yn y dyfodol.
Newyddion tai diweddaraf
Cofrestrwch ar gyfer bwletin e-bost Cartrefi Caerffili i gael gwybod am y newyddion tai diweddaraf
Cyfleoedd wyneb yn wyneb ac ar-lein
Grwpiau ffocws – Grwpiau bach o ddeiliaid contract sy'n dod at ei gilydd i roi eu barn i ni ar bwnc, er enghraifft fforddiadwyedd rhent. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Costau a theithio
Rydyn ni'n ad-dalu costau rhesymol fel teithio a gofal. Os nad oes gennych chi gar, gallwn ni drefnu trafnidiaeth am ddim i chi. Os oes unrhyw beth a allai eich atal rhag cymryd rhan, cysylltwch â ni.
Hyfforddi
Rydyn ni'n cynnig sesiynau hyfforddi am ddim i'ch cynorthwyo a'ch helpu chi i gymryd rhan.
Hoffech chi rannu eich barn?
Felly, cysylltwch â ni…
Neu ysgrifennwch atom ni: Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned, Cartrefi Caerffili, Lefel 4, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
Dywedoch chi, gwnaethom ni
Ymgynghoriad Rhent – Eich Rhent, Eich Barn
Bob blwyddyn, rydyn ni'n gofyn i chi am eich barn o ran Rhent a Fforddiadwyedd. Un o'r pethau a ddaeth i law oedd hoffech chi wybod sut mae eich arian rhent yn cael ei wario. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu'r wybodaeth hon bob blwyddyn ac aeth ein taflen Sut rydyn ni'n Gwario Eich Rhent at bawb yn gynnar yn 2023 a 2024.