Homeswapper

Rydym yn aelod o’r Cynllun HomeSwapper cenedlaethol sy’n cadw manylion deiliaid contract / tenantiaid sy’n dymuno cydgyfnewid eiddo o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn ogystal â manylion pobl o’r tu allan i’r ardal.

Gall deiliaid contract Cyngor Caerffili gofrestru â HomeSwapper a defnyddio’r gwasanaeth yn ddi-dâl. 

Mae HomeSwapper yn eich helpu i ddod o hyd i bobl y gallwch o bosibl gydgyfnewid eiddo â hwy; gallwch chwilio am deiliaid contract / denantiaid eraill o fewn y fwrdeistref sirol a ledled y wlad a allai fod yn dymuno cyfnewid eu cartref â chi.

Sut mae HomeSwapper yn gweithio?

Mae HomeSwapper yn hawdd i’w ddefnyddio. Dim ond nifer fach o gamau sylfaenol sydd angen eu cymryd:

  • Cofrestru ar wefan HomeSwapper  Pan fyddwch yn dewis Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel eich landlord, byddwn yn cadarnhau eich manylion contract a bydd eich cofrestriad am ddim.

  • Yna bydd HomeSwapper yn chwilio am bobl y gallwch gyfnewid â hwy
  • Os daw’r gwasanaeth o hyd i rywun y gallwch gyfnewid ag ef, anfonir neges e-bost neu neges destun atoch i roi gwybod i chi. (Bydd angen i chi roi rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cofrestru).

A oes angen mynediad i’r Rhyngrwyd arnoch i gofrestru?

Os nad oes mynediad i’r rhyngrwyd gennych, gallwch gysylltu â’ch swyddfa dai leol a all eich helpu. Neu gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd yn eich llyfrgell leol

Cofiwch – rhaid i chi beidio â chyfnewid cartref gydag unrhyw un tan i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan y ddau landlord perthnasol. Am ragor o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â’ch Cofiwch – rhaid i chi beidio â chyfnewid cartref gydag unrhyw un tan i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan y ddau landlord perthnasol. Am ragor o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa dai leol.