Yswiriant cynnwys cartref i ddeiliaid contract y cyngor

Ydych chi wedi meddwl beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n colli rhywfaint neu'r cwbl o’ch eiddo, er enghraifft mewn tân, trwy ladrad neu oherwydd i bibell ddŵr dorri?

Er tawelwch meddwl llwyr gallwn ddarparu i ddeiliaid contract y cyngor yswiriant cynnwys cartref, y gallwch dalu amdano bob wythnos gyda’ch rhent.

Heb dâl-dros-ben i’w dalu ar bolisi safonol, ac yswiriant “newydd yn lle hen” ar y rhan fwyaf o eitemau, allwch chi fforddio peidio â chael yswiriant?

Faint mae’n costio?

Bydd hyn yn dibynnu ar y swm mae angen ichi yswirio amdano. Wrth ystyried y swm i yswirio amdano bydd angen ichi weithio allan faint fydd yn costio i brynu eiddo newydd yn lle HOLL gynnwys eich cartref.

Mae yswiriant ar gael am gyn lleied â 35c yr wythnos am werth £4000 o gynnwys gyda’r polisi safonol.

Mae yswiriant difrod damweiniol llawn ar gael hefyd am gyn lleied â 55c yr wythnos gyda thâl-dros-ben o £25 yn unig. Am bremiwm ychwanegol gallwch hefyd ychwanegu yswiriant dewisol am eich eiddo i ffwrdd o’ch cartref, eich cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd a’ch cymhorthion clyw. Mae manylion llawn y costau ar gael yn ein llyfryn isod.

Llyfryn yswiriant cynnwys cartref i denantiaid (PDF)

Sut i wneud cais

I wneud cais gallwch:

Gwneud hawliad

Os oes angen ichi wneud hawliad o dan y polisi, dylech gysylltu â’r Adran Yswiriant ar 01443 863430, neu gallwch lawrlwytho copi o'r ffurflen hawlio isod.

Ffurflen hawlio yswiriant cynnwys i denantiaid (PDF)

Dylech sicrhau y darllenwch y ffurflen gynnig yn ofalus wrth wneud cais am yswiriant er mwyn sicrhau eich bod yn deall pa wybodaeth mae’n ofynnol ichi ei rhoi, a’ch bod yn fodlon bod y swm yr ydych yn yswirio amdano yn ddigon i gynnwys eich holl eiddo. Gallai effeithio ar eich hawliad os ydych yn peidio â datgelu ffaith berthnasol, neu os nad ydych yn yswirio am y swm cywir. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch yr Adran Yswiriant ar 01443 863430.