Cadi bwyd

Rydyn ni'n casglu gwastraff bwyd yn wythnosol. Dylai eich cadi gynnwys gwastraff bwyd yn unig.

Mae £500 i'w ennill bob mis. Rhowch eich cadi bwyd allan i gael cyfle i ennill. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Ailgylchu@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866533.

Os nad ydych chi'n siŵr o'ch diwrnod casglu, gwiriwch eich diwrnod bin

Os nad oes gennych chi gadi bwyd, gallwch chi wneud cais am y ddau gadi am ddim, neu ffonio 01443 866533.

Ewch i'n tudalen gwastraff bwyd i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth gwastraff bwyd. 

Rydyn ni'n argymell bod trigolion yn rhoi eu gwastraff nhw allan mor hwyr â phosibl y noson gynt, neu yn y bore cyn casglu. Rhaid dod â biniau yn ôl i'ch eiddo chi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.

Cofiwch gynnwys

  • Ffrwythau
  • Llysiau
  • Bara wedi llwydo
  • Bagiau te
  • Plisg wyau
  • Cig a physgod
  • Bwyd anifeiliaid anwes
  • Esgyrn
  • Cynnyrch llaeth
  • Reis
  • Pasta
  • Gweddillion bwyd
  • Grawnfwydydd

Peidiwch â chynnwys

  • Deunydd pacio bwyd
  • Hylifau (er enghraifft llaeth)
  • Olew (er enghraifft olew coginio)
  • Unrhyw ddeunydd nad yw'n wastraff bwyd
Cysylltwch â ni