The Furniture Revival

Mae'r cyfleuster hwn yn gyfle gwych i eitemau gael eu hailbwrpasu a'u hailddefnyddio. Mae'n bosibl bod yr eitemau hyn wedi bod ar eu ffordd i'r sgip. Yn lle hynny, gallan nhw gael eu rhoi a'u hailwerthu yn ôl i'r gymuned.

Mae'r cyfleuster ar agor i bawb. Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau, mae gostyngiad ar gael.

Rhoi a Phrynu Eitemau

Cyn i chi roi eitemau, gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Mae pob eitem o ddodrefn clustogog yn cynnwys label swyddogol safonau diogelwch tân 1988.
  • Mae'r eitemau mewn cyflwr dda i'w cael eu hailddefnyddio. Rydyn ni'n gwneud mân atgyweiriadau, ond ni allwn ni gasglu eitemau sydd angen atgyweiriadau helaeth.

Rydyn ni'n casglu eitemau sy'n gallu cael eu hailddefnyddio am ddim. Fel arall, casglu rhewydd am tal fach. I drefnu casglu, ffoniwch 01685 846830. Neu, ewch i wefan Furniture Revival.

Bydd casglu oergelloedd yn costio £16.

Bydd casglu oergelloedd rhewgell Americanaidd yn costio £24.

I brynu eitemau, mae gan Furniture Revival gatalog ar-lein. Neu mae'r eitemau ar gael i'w prynu yn y siop.

Ble i ddod o hyd i Furniture Revival

The Furniture Revival
Uned 21, Ystad Ddiwydiannol Lawnt, Rhymni
NP22 5PW

Oriau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 9am–4pm

Cysylltwch â ni