Prosiect Gwyrdd

Partneriaeth rhwng pum awdurdod lleol yw Prosiect Gwyrdd. Y rhain yw Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg.

Nod y prosiect yw darparu ateb rhanbarthol i wastraff cyffredinol. I grynhoi, dyma'r gwastraff sy'n weddill ar ôl ailgylchu a chompostio.

Dros y blynyddoedd, mae awdurdodau lleol wedi dibynnu ar dirlenwi i ddelio â gwastraff. Mae rheoli gwastraff cyffredinol trwy dirlenwi yn unig yn cynhyrchu'r effaith carbon uchaf.

Mae'r cyfleusterau hyn yn gweithredu o dan amodau llym iawn. Maen nhw'n cael eu rheoleiddio yn gryf gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae profiad yn dangos eu bod nhw’n gweithio ochr yn ochr â pherfformiad da o ran ailgylchu a chompostio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfradd ailgylchu a chompostio o 70%  erbyn 2025. Mae ganddyn nhw hefyd gynlluniau i fod yn Genedl Ddiwastraff erbyn 2050.

Mae pob awdurdod yn ymdrechu i fodloni 70% a thu hwnt.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Prosiect Gwyrdd.

Cysylltwch â ni