Gwastraff Peryglus

Symud asbestos o'r cartref a chael gwared arno

Y ffordd fwyaf diogel o symud gwastraff asbestos o'ch cartref chi a chael gwared arno yw defnyddio contractwr arbenigol.

I gael cyngor ar drin gwastraff asbestos, cysylltwch â:

Sut i gael gwared ar asbestos

Gallwch chi wneud cais am gasglu ar-lein neu fynd â'r asbestos i ganolfan ailgylchu.

Rydyn ni'n derbyn asbestos cartrefi yn y canolfannau ailgylchu canlynol yn unig.

Rhaid rhoi asbestos mewn bagiau dwbl gan ddefnyddio:

  • polythen 1000-medr; neu
  • ddeunydd lapio dwbl polythen 1000-medr

Wrth gyrraedd, rhowch wybod i'r gweithwyr bod y bagiau'n cynnwys asbestos. Bydd y gweithwyr yn dangos i chi pa gynhwysydd i'w ddefnyddio. 

Gwasanaeth Casglu

Am ffi, gallwn ni gasglu asbestos o eiddo domestig yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • casglu,
  • selio'r dalennau,
  • cludo i sgip storio dros dro wedi'i selio cyn cael gwared ar swmp mewn safle Tirlenwi Gwastraff Peryglus trwyddedig.
Gwnewch gais nawr
 
Noder: Ni fydd y ffurflen hon yn gweithio yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern, fel Edge, Chrome neu Safari.

Casglu gwastraff clinigol

I drefnu casglu, cysylltwch â llinell gymorth casglu'r GIG.

Gallwch chi ffonio 0300 123 9208 neu e-bostio nwssp_hcscontrolhub@wales.nhs.uk.

I drefnu casglu ar gyfer yr wythnos wedyn, ffoniwch neu e-bostio cyn dydd Iau 5pm.

Bydd y drefn uchod yn berthnasol i bob casgliad gwastraff clinigol. Mae hyn yn cynnwys gwastraff dialysis, diabetes neu wastraff clinigol cyffredinol arall.