Sgorau hylendid bwyd

Yn bwyta allan neu’n archebu bwyd i mewn?

Mae’r Cynllun Sgorau Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis lle i fwyta allan neu i siopa am fwyd. Mae’r cynllun yn rhoi gwybodaeth i chi am safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai a llefydd eraill yr ydych yn hoffi bwyta allan ynddynt, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Beth yw ystyr y sgorau?

Cyflwynodd Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Gynllun Sgorio Hylendid Bwyd gorfodol yng Nghymru.

Mae’n rhaid i eiddo bwyd sydd wedi’u harolygu ar ôl 27 Tachwedd 2013, arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd yn glir yn, neu ger, pob mynedfa i’w busnes bwyd. Mae methiant i wneud hyn yn drosedd, a allai arwain at ddirwy o £200 a/neu erlyniad.

Mae eiddo yn derbyn sgôr o 0 i 5 fel a ganlyn:

0 – Mae angen gwelliannau brys
1 – Mae angen gwelliannau mawr
2 – Mae angen gwelliannau
3 – Yn foddhaol yn gyffredinol
4 – Da
5 – Da iawn

Mae’r sgorau yn seiliedig ar:

  • Pa mor hylan y mae’r bwyd yn cael ei drin
  • Cyflwr yr eiddo
  • Sut mae diogelwch bwyd yn cael ei reoli

Nid yw’r sgôr a roddir i fusnes yn adlewyrchu ansawdd y bwyd na safon y gwasanaeth cwsmeriaid.

Cysylltwch â ni