Gweithio gyda phartneriaid mewn argyfwng

Mae'r ymateb i'r rhan fwyaf o argyfyngau ar raddfa fawr yn cynnwys mwy nag un sefydliad. Mae'n bwysig bod partneriaid aml-asiantaeth yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu ymateb cydlynol ac effeithiol i argyfyngau.

Fforwm Cydnerth Lleol Gwent

Mae'r Fforwm Cydnerth Lleol Gwent, sydd wedi'i seilio ar ardal Heddlu Gwent, yn dod a'r holl bartneriaid aml-asiantaeth ynghyd sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Fel grŵp aml-asiantaeth rydym yn cynhyrchu cynlluniau a gweithdrefnau ar y cyd gan ein galluogi i ymateb i ddigwyddiadau mewn modd di-dor. Mae'r hyfforddiant a'r ymarfer rydym yn ei wneud gyda'n gilydd yn atgyfnerthu ein dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau ein gilydd. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Gwent Prepared.

Cofrestr Risgiau Cymunedol

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r Gofrestr Risgiau Cenedlaethol sy'n asesu peryglon a risgiau a allai effeithio ar y Deyrnas Unedig..

Cyn i ni roi cynlluniau a gweithdrefnau ar waith, mae angen hefyd i nodi'r risgiau posibl ar raddfa leol a allai effeithio ar gymunedau Gwent a deall y canlyniadau a gall ddeillio ohonynt.

Mae'r Gofrestr Risgiau Cymunedol Gwent yn cael ei gyhoeddi i hysbysu ein cymunedau o'r ystod o argyfyngau a allai godi a beth sy'n cael ei wneud i roi sylw iddynt. Gellir lawrlwytho'r Gofrestr Risgiau Cymunedol a'i weld yn fwy manwl.

Ein partneriaid

Mae dolenni i'n partneriaid Fforwm Cydnerth Lleol Gwent wedi rhestri isod, yn ogystal â dolenni defnyddiol eraill sy'n darparu gwybodaeth ar gynllunio am argyfwng yng Nghymru a'r DU:

  • Cymru Gydnerth
  • UK Resilience

Gwasanaethau brys:

  • Heddlu Gwent
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 
  • GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau

GIG yng Ngwent:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru

Awdurdodau lleol:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Ymatebwyr Eraill:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Y Swyddfa Dywydd
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Cyfleustodau:

  • British Telecom
  • Dŵr Cymru
  • Grid Cenedlaethol
  • Wales and West Utilities
  • Western Power

Cludiant:

  • Canal & River Trust
  • Network Rail
  • Asiant Cefnffyrdd De Cymru
Cysylltwch â ni