FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cynllunio ar gyfer argyfwng

Mae’n annhebygol iawn y bydd unrhyw un ohonom yn cael ein dal mewn argyfwng neu drychineb. Fodd bynnag mae argyfyngau’n gallu digwydd, a phan fyddant yn digwydd gallant amharu ar y gymuned ac arwain weithiau at ganlyniadau difrifol.

Mae’r ystod eang o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor o ddydd i ddydd, a’n harbenigedd a’n gwybodaeth am yr ardal leol, yn golygu bod y Cyngor mewn sefyllfa dda i ymateb i ddigwyddiadau annisgwyl neu ddigwyddiadau nad oes modd eu rhagweld, a allai effeithio ar ein bywydau unrhyw bryd ac mewn sawl ffordd wahanol.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Nod cynllunio ar gyfer argyfwng yw lleihau’r posibilrwydd y gallai argyfyngau ddigwydd, a phe baent yn digwydd lleihau eu heffaith ar ein cymunedau. Rydym yn cyflawni hynny drwy wneud y canlynol:

  • Cynllunio: rydym yn asesu pa risgiau a allai effeithio ar ein cymunedau ac rydym yn datblygu cynlluniau i reoli a lleihau eu heffaith.
  • Hyfforddi ac ymarfer: rydym yn cynnal rhaglen hyfforddi ac ymarfer ar gyfer ein staff ac asiantaethau eraill er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol gyda’n gilydd pan fo angen.
  • Cysylltu ag eraill: rydym yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol cyfagos, gwasanaethau brys, cwmnïau cyfleustodau, mudiadau gwirfoddol a sefydliadau a mudiadau eraill priodol. Mae hynny’n ein galluogi i rannu gwybodaeth a sicrhau bod ein cynlluniau a’n gweithdrefnau’n cyd-fynd â’i gilydd er mwyn i ni allu darparu ymateb cydlynol i argyfyngau.
  • Gweithredu: caiff system ei darparu lle mae Swyddog ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar gael 24 awr y dydd, sy’n golygu bod modd ymateb yn brydlon i ddigwyddiadau mawr.

Beth y gallwch chi ei wneud?

Drwy fod yn barod ar gyfer argyfwng mawr, gallwch ymdrin yn fwy effeithiol â mân argyfyngau hefyd. Drwy gymryd rhai camau syml, gallwch leihau effaith argyfwng ar eich teulu a’ch cartref.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol i wneud hynny, dim ond rhai eiliadau o’ch amser. Mae’r llyfryn canlynol yn cynnwys cyngor ymarferol ynghylch sut y gallwch eich helpu eich hun a helpu eich teulu mewn argyfwng.

Beth i'w wneud mewn argyfwng – Peidiwch ag aros yn y tywyllwch (PDF)

Emergency Planning Booklet

Cysylltwch â ni