Y cyngor a democratiaeth > Cynghorwyr

Eich Cynghorwyr

Maeâ r Cyngor yn cynnwys 69 o Gynghorwyr etholedig sydd ag amrywiaeth eang o swyddogaethau gan gynnwys cytuno fframwaith polisi'r Cyngor, Treth y Cyngor a’r gyllideb.

Mae pob Cynghorydd yn cael ei ethol /ei hethol i gynrychioli ardal benodol (Ward Etholiadol) ac maent fel arfer yn gwasanaethu yn y swydd am gyfnod o bedair blynedd.

Mae gan Gynghorydd nifer o swyddogaethau a chyfrifoldebau ac mae angen iddynt gyd-bwyso anghenion a buddiannau eu cymuned leol, plaid wleidyddol neu grŵp â blaenoriaethau’r Fwrdeistref Sirol ehangach. Mae Cynghorwyr yn arweinwyr cymunedol ac mae eu dyletswyddau fel arfer yn cynnwys; cynnal cymorthfeydd i gwrdd â’u hetholwyr, cefnogi sefydliadau lleol (e.e. ysgolion, busnesau ac elusennau), ymgyrchu ar faterion lleol, datblygu cysylltiadau gyda phob rhan oâ r gymuned a bod yn arweinydd cymunedol.

Gallwch ddysgu rhagor am y Cynghorwyr sydd wedi’u hethol i wasanaethu ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, eu swyddogaethau a’u manylion cyswllt drwy ddilyn y dolenni isod: