Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau 

Rhowch wybod i ni os ydych wedi symud tŷ, newid eich enw, neu os oes unrhyw newidiadau eraill wedi bod yn eich amgylchiadau. Mae’n bwysig rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn symud tŷ fel y gallwn eich bilio'n gywir ar gyfer eich Treth y Cyngor a chadw ein cofnodion yn gyfoes.

Defnyddiwch y ffurflen ganlynol i roi gwybod i ni eich bod wedi newid cyfeiriad. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon pan:

  • rydych  chi'n symud i mewn i ardal bwrdeistref sirol Caerffili
  • rydych chi'n symud allan o ardal bwrdeistref sirol Caerffili
  • rydych chi'n symud o un cyfeiriad i gyfeiriad arall sydd o fewn ardal bwrdeistref sirol Caerffili

Rhoi gwybod eich bod wedi newid cyfeiriad >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Os oes unrhyw newidiadau eraill yr hoffech roi gwybod i ni amdanynt, neu os oes gennych gwestiwn am dreth y cyngor, cysylltwch â ni.

Manylion eraill y dylech roi gwybod i ni amdanynt

 Hefyd, os ydych eisoes yn derbyn budd-dal tai a/neu ostyngiad treth y cyngor a bod eich amgylchiadau wedi newid, rhaid i chi roi gwybod i ni am y newidiadau hyn ar unwaith.

Cofiwch, os byddwch yn symud tŷ, cofiwch gofrestru’r newidar y Gofrestr Etholiadol.