Bod yn blentyn sy’n derbyn gofal

Mae ‘plant sy’n derbyn gofal’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu Hawdurdod Lleol – plant a ddisgrifir yn aml fel plant ‘mewn gofal’.

Mae llawer o resymau pam mae plant a phobl ifanc yn gorfod Derbyn Gofal. Mae pob achos yn wahanol, weithiau mae rhieni yn methu â gofalu am eu plant neu efallai fod angen gwasanaethau arbenigol na ellir eu darparu gartref.

Os na all plentyn aros gartref i fyw gyda’i rieni, gallai dderbyn gofal gan berthynas/ffrind neu Ofalyddion Maeth, neu efallai fod angen gwasanaethau arbenigol arnynt mewn lleoliad preswyl.

Efallai mai am gyfnod byr yn unig y bydd yn rhaid i blant ‘Dderbyn Gofal’ ac yna maen nhw’n dychwelyd at y teulu, ond weithiau mae’r trefniant yn fwy parhaol.

Er mwyn helpu i benderfynu beth yw’r cynllun priodol i blentyn a’i deulu, byddwn yn cynnal asesiad o’r anghenion a fydd yn cynnwys barn y plentyn a’r rhieni.

Beth yw cynllun gofal?

Bydd cynllun gan bob plentyn sy’n Derbyn Gofal. Mae dyletswydd arnom i lunio cynllun ysgrifenedig i blentyn rydym yn cynnig ei fod yn derbyn gofal, dyma yw’r cynllun gofal. Rhaid i bob cynllun gofal gael ei ysgrifennu drwy ymgynghori â’r plentyn, y rhieni ac asiantaethau a phobl bwysig eraill ym mywyd y plentyn.

Mae’r cynllun gofal yn egluro beth fyddwn ni’n ei wneud i gefnogi anghenion y plentyn o ran trefniadau cyswllt, iechyd, addysg, crefydd, diwylliant a diddordebau. Bydd copi yn cael ei roi i’r plentyn, y rhieni a’r gofalyddion maeth fel bod popeth yn glir i bawb.

Caiff cynllun gofal ei adolygu yn rheolaidd drwy ymgynghori â’r plentyn, y rhieni a’r holl weithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â gofal y plentyn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi anghenion y plentyn.

Beth yw gweithiwr cymdeithasol?

Mae gweithiwr penodol gan bob plentyn neu berson ifanc sy’n Derbyn Gofal; gallai hyn fod yn weithiwr cymdeithasol, yn uwch ymarferydd neu yn weithiwr cymorth gwasanaethau plant.

  • Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn gweithio gyda’r plentyn a’i deulu i wireddu’r cynllun gofal.
  • Bydd yn ymweld â’r plentyn yn rheolaidd ac yn rhoi manylion cyswllt i’r plentyn fel ei fod yn hawdd cael gafael ar y gweithiwr cymdeithasol.
  • Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn sicrhau bod gan bob plentyn gopi o’r Pecyn Gwybodaeth i Blant sy’n Derbyn Gofal.
  • Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn gwrando ar ddymuniadau a theimladau’r plentyn.
  • Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu diwallu.
  • Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn esbonio’r cynllun gofal i’r plentyn ac yn siarad am yr hyn fydd yn digwydd yn y dyfodol.

Gofal Maeth

Gofal maeth neu lle gyda theulu maeth yw pan fydd person ifanc yn derbyn gofal gan deulu arall. Mae gofalyddion maeth yn bobl sy’n dymuno gofalu am blant a phobl ifanc. Cyn i ni ganiatáu i unrhyw un faethu, rydym yn gwneud ymholiadau gofalus iawn amdanynt.

Mae ein Tudalennau maethu yn rhoi mwy o wybodaeth am ofal maeth.

Eich hawliau chi fel plentyn neu berson ifanc

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawliau. Gyda’r hawliau hyn daw dewisiadau yn ogystal â chyfrifoldebau. Mae’n gyfrifoldeb ar rywun bob amser i’ch cadw yn ddiogel ac yn iach.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’n tudalen Hawliau Plant

Gadael gofal

Bydd gorchymyn gofal yn dod i ben yn awtomatig pan fyddwch yn cyrraedd 18 oed. Ni fydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i’r llys er mwyn i hyn ddigwydd. Ond bydd yn rhaid i wasanaethau arbenigol barhau i gynnig help i chi, er enghraifft gyda dod o hyd i rywle i fyw hyd nes eich bod yn 21 oed. 

Mae ein tudalen Gadael gofal yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl pan fyddwch yn gadael gofal.

Cysylltwch â ni