Cofrestru genedigaeth

Rhaid i chi gofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod (6 wythnos) ar ôl i fabi gael ei eni. I wneud hynny rhaid bod yn bersonol mewn swyddfa gofrestru.

Os cafodd eich baban ei eni yn ardaloedd cynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy neu Dorfaen, gallwch chi gofrestru'r enedigaeth yn unrhyw un o'r swyddfeydd cofrestru yn ardaloedd y cynghorau hynny. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r dolenni isod. 

Pe na baech yn gallu dod i’n swyddfa cewch fynd i swyddfa gofrestru arall yng Nghymru neu Loegr ac fe fyddan nhw wedyn yn gyrru’r manylion atom ni. Yn yr un modd, os yw’r babi yn cael ei eni y tu allan i Fwrdeistref Sirol Caerffili cewch ddod i’n swyddfa ni ac fe wnawn ni yrru’r manylion am y geni i’r ardal lle’i ganwyd.

Cysylltwch â ni i wneud hynny.

Peidiwch â cholli allan ar Fudd-dal Plant

Cofrestru genedigaeth

Mae gwybodaeth am Fudd-dal Plant ar gael ar GOV.UK gan gynnwys y ffurflen hawlio Budd-dal Plant CH2 (Ffurflen Gais CH2). Ar gyfer eich plentyn cyntaf chi, rhaid i hwn gael ei argraffu, ei lenwi a'i anfon i'r swyddfa Budd-dal Plant.

Os nad oes gennych chi fynediad at argraffydd, gallwch chi ffonio 0300 200 3100 a bydd CThEM yn anfon ffurflen atoch chi yn y post.

Mae'r ffurflen hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer y lleiafrif bach o deuluoedd a allai fod yn gymwys ar gyfer Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC).

Os ydych chi wedi cyflwyno cais Budd-dal Plant eisoes, gallwch chi ychwanegu rhagor o blant drwy ffonio CThEM ar y rhif uchod.

Pwy sy’n cael cofrestru genedigaeth?

Pe bai’r rhieni wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil â’i gilydd pan anwyd y babi, yna gall y fam, y tad neu’r ail riant benywaidd gofrestru’r geni.

Fodd bynnag, pe bai’r rhieni heb briodi nac mewn partneriaeth sifil â’i gilydd adeg yr enedigaeth, gellir cofnodi manylion y tad neu’r ail riant benywaidd ar y gofrestr yn unig os yw’r:

  • ddau riant yn bresennol yn y cofrestri gyda’i gilydd, neu
  • tad neu’r ail riant benywaidd yn methu â bod yn bresennol gyda’r fam ac felly fod y tad neu’r ail bartner benywaidd yn gwneud datganiad statudol yn cadarnhau ei fod ef neu hi yn un o rieni’r babi. Bydd angen i’r fam gyflwyno’r datganiad yma i’r cofrestrydd, neu
  • os yw’r fam yn methu a bod yn bresennol gyda’r tad neu’r ail bartner benywaidd ac yn gwneud datganiad statudol yn cadarnhau enw’r tad neu’r ail bartner benywaidd, y dylai’r tad neu’r ail bartner benywaidd wedyn ei gyflwyno i’r cofrestrydd, neu
  • os yw unrhyw un o’r rhieni yn cyflwyno gorchymyn llys perthnasol

Mae’r Ddeddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008 yn diffinio beth yw ‘bod yn rhiant’ gyda golwg ar pwy yw tad neu ail bartner benywaidd (h.y. partner benywaidd y fam) plentyn sy’n cael ei eni gan fenyw wedi iddi dderbyn embryo neu sberm ac wyau neu drwy iddi gael ffrwythloniad artiffisial.

I wneud datganiad statudol o bwy yw'r rhieni, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen gais ac mae'n rhaid i Ynad Heddwch, Ynad, Comisiynydd Llwon, Cyfreithiwr sy'n Ymarfer neu Notari Cyhoeddus fod yn dyst iddi. Cysylltwch â ni am ffurflen.

Y dogfennau y bydd angen i chi ddod gyda chi

Er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn cofnodi genedigaethau’n gywir dylech ddod â rhai o’r dogfennau a ganlyn gyda chi i gadarnhau manylion y rhieni. Bydd y cofrestryddion yn cadarnhau'r dogfennau sydd angen pan fyddwch yn gwneud yr apwyntiad i gofrestru:

  • Bil y dreth cyngor
  • Trwydded yrru
  • Pasbort
  • Pob tystysgrif priodas/partneriaeth sifil y rhieni gan gynnwys priodasau neu bartneriaethau sifil blaenorol
  • Tystysgrif geni
  • Dogfennau neu weithredoedd yn dangos newid enw
  • Unrhyw ddogfennau sy’n gallu cadarnhau’r wybodaeth a fydd yn cael ei chofrestru

Lle bynnag y mae hynny’n bosib, dylech ddarparu dogfennau i sicrhau fod ein cofnodion yn gywir.

Beth fyddaf yn ei dderbyn?

Os cafodd eich baban ei eni yn ardaloedd cofrestru Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy neu Dorfaen, ar adeg y cofrestriad cychwynnol, bydd y cofrestrydd yn rhoi'r tystysgrifau geni i chi am y ffi briodol.

Mae tystysgrif geni sy’n gopi llawn o’r hyn a nodwyd ar y gofrestr yn dangos enwau’r rhieni ar gael am dâl bychan. Bydd yn rhaid cael y dystysgrif lawn fel hyn er mwyn gwneud cais am basbort i unrhyw un a anwyd ar ôl 1983. I weld faint fydd y gost, ewch i’r adran ffioedd a thaliadau am dystysgrifau.

Os cafodd eich babi ei eni mewn ardal arall ac yr ydym yn anfon manylion at yr ardal hynny, ni fyddwn yn gallu rhoi unrhyw ddogfennau i chi. Byddant yn cael eu darparu gan y cofrestryddion yn yr ardal lle gafodd y plentyn ei eni a'i hanfon atoch drwy'r post.

Mae Hawlfraint y Goron ar dystysgrifau ac ni ddylid eu ffotocopïo at ddibenion swyddogol.

Ail-gofrestru genedigaeth

Mae gwahanol amgylchiadau pan fydd angen ail-gofrestru genedigaeth. 

  • Ail-gofrestru genedigaeth yn dilyn priodas neu bartneriaeth sifil
  • Ail-gofrestru genedigaeth heb briodas neu bartneriaeth sifil
  • Ail-gofrestru genedigaeth mewn amgylchiadau drwy Ddatganiad o Bwy yw'r Rhieni

Ewch i'r adran ail-gofrestru genedigaeth am fanylion.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni