FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Gofynion cyfreithiol priodi

Cyn y cewch briodi yng Nghymru a Lloegr mae’n rhaid i’r ddau barti drefnu i gychwyn y broses gyfreithiol.

Seremoni sifil

Os mai seremoni sifil fydd y briodas, neu seremoni grefyddol mewn eglwys heblaw am Eglwys Loegr neu’r Eglwys yng Nghymru , mae’n rhaid i chi ddarparu ‘rhybudd cyfreithiol o’r briodas’.

Cewch roi hysbysiad hyd at flwyddyn cyn dyddiad y briodas. Bydd hyn yn cychwyn y broses a fydd maes o law yn caniatáu i’r briodas ddigwydd ac iddi gael ei chofrestru.

Seremoni grefyddol

Os bydd y briodas yn seremoni grefyddol Eglwys Loegr neu’r Eglwys yng Nghymru, bydd y ficer, cyn y seremoni, yn trefnu bod y gostegion yn cael eu darllen neu fod trwydded gyffredin yn cael ei chyhoeddi. Bydd hyn yn dechrau’r broses a fydd maes o law yn caniatáu i’r briodas ddigwydd ac iddi gael ei chofrestru.

Lle nad yw un neu’r ddau o’r rhai sydd am briodi yn ddinesydd perthnasol*, ac mae'r briodas yn yr Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr, bydd yn rhaid i'r ficer eich cyfeirio at y swyddfa gofrestru i drefnu i roi rhybudd o briodas.

Os yw’n seremoni grefyddol mewn adeilad sy’n eiddo i unrhyw enwad crefyddol arall, dylid rhoi rhybudd o hynny fel nodir isod.

* Mae dinesydd perthnasol yn berson sy’n Brydeinig, yn Wyddelig neu’n berson sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog yr Undeb Ewropeaidd, neu sydd wedi gwneud cais am statws EUSS ar neu cyn 30 Mehefin 2021.

Rhoi rhybudd

Pan fyddwch wedi dewis dyddiad a lleoliad eich priodas dylech drefnu rhoi rhybudd i Gofrestrydd Arolygol yr ardal lle’r ydych yn byw. Os ydych chi a’ch partner yn byw mewn ardaloedd gwahanol dylai’r ddau ohonoch roi rhybudd yn eich ardal eich hun. Dylech fod wedi byw yn yr ardal am o leiaf saith niwrnod yn union cyn rhoi rhybudd.

Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r swyddfa gofrestru yn:

Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Bydd yn rhaid i chi drefnu apwyntiad er mwyn rhoi rhybudd o bartneriaeth sifil yn ystod ein horiau agor. Cysylltwch â ni i wneud hynny.

Nid yw’n bosib rhoi rhybudd o fwy na 12 mis ymlaen llaw am bartneriaeth sifil er hynny mae’n bosibl gwneud trefniant amodol weithiau hyd at 3 blynedd cyn y dyddiad.

Dogfennau y bydd angen i chi ddod gyda chi

Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad i hysbysu, bydd y cofrestrydd yn egluro pa ddogfennau y bydd angen i chi ddod, megis pasbort, tystysgrif geni, papurau ysgariad, tystiolaeth o statws mewnfudo a phrawf preswyl. Mae’r dogfennau hyn yn cael eu rhoi’n gyfreithlon felly’n aml ni fydd dogfennau eraill yn cael eu derbyn. Efallai na fyddwch yn gallu rhoi rhybudd cyfreithiol oni bai eich bod yn gallu darparu'r dogfennau gofynnol, felly rhaid i hyn gael ei drafod gyda'r Cofrestrydd Arolygol cyn i chi fynd i'r swyddfa gofrestru.

Mae ffi i’w thalu am roi rhybudd. I weld y manylion ewch i’r adran ffioedd a thaliadau eich swyddfa gofrestru.

Awdurdod i briodi

Pwrpas roi rhybudd yw i'r cofrestrydd arolygol sicrhau eich bod yn rhydd yn gyfreithiol i briodi ac i gwblhau'r dogfennau cyfreithiol rhagarweiniol eich priodas.

Unwaith y byddwch wedi hysbysu, bydd y manylion (heb gynnwys dyddiad ac amser eich seremoni) yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am 28 diwrnod. Ni allwch briodi nes bod y 28 diwrnod wedi mynd heibio. Mewn rhai achosion, os oes Atgyfeiriad gan y Swyddfa Gartref wedi'i wneud, gall y cyfnod aros gael ei ymestyn i 70 diwrnod. Bydd y swyddogion cofrestru yn esbonio’n glir y cyfnod aros pan fyddwch yn cysylltu â nhw.

Yn dilyn y cyfnod aros cyfreithiol hwn, bydd yr Amserlen Priodi yn cael ei gyhoeddi gan y Cofrestrydd Goruchwyliol yn yr ardal lle bydd y briodas yn cael ei chynnal.

Bydd y cofrestryddion yn eich cynghori am sut y bydd yr Amserlen Priodi yn cael ei rhoi i’r person addas a fydd yn cofrestru eich priodas.

Priodasau a phartneriaethau sifil yng Nghymru a Lloegr

Tabl sy'n nodi’r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng partneriaethau sifil a phriodasau fel sy'n berthnasol i gyplau o'r un rhyw neu o rywiau gwahanol.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni