FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Copi o dystysgrifau geni

Rydym yn cadw cofnod o’r rhan fwyaf o enedigaethau a fu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ers 1837.

Ni allwn ond rhoi copïau o dystysgrifau geni os bydd y cofrestriad gwreiddiol yn ein meddiant. Fel arall bydd rhaid i chi geisio cael copi gan y swyddfa gofrestru lle mae’r cofnod gwreiddiol.

Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu

Lle bynnag y mae hynny’n bosib bydd rhaid i ni gael yr wybodaeth ganlynol am y person(au) sydd ar y dystysgrif a geisir:

  • Enw llawn ar enedigaeth
  • Dyddiad geni
  • Man geni
  • Enwau'r rhieni
  • Enw'r fam enedigol cyn priodi

Sut i wneud cais am gopi o dystysgrif

Gwnewch gaisar lein am gopi o dystysgrif geni >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Fel arall, cysylltwch â’r swyddfa gofrestru.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais byddwn yn chwilio am y cofnod gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd gennych. Wedyn byddwn yn cysylltu â chi, ac os byddwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael hyd i’r cofnod, byddwn yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd?

Rydym yn cynnig gwasanaethau safonol a blaenoriaeth.

Ar gyfer costau pob gwasanaeth, ymwelwch â’r adran costau a ffioedd ar gyfer tystysgrifau.

Mae Hawlfraint y Goron ar dystysgrifau ac ni ddylid eu ffotocopïo at ddibenion swyddogol.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Ymchwilio i hanes teulu