Cymorth gyda chostau angladd

Cymorth gyda chostau angladd

Mae yna rai budd-daliadau y gallech chi eu hawlio os ydych chi wedi colli anwylyd yn ddiweddar.

Taliadau Angladd

Os ydych chi ar incwm isel ac angen cymorth i dalu am angladd, efallai y gallech chi hawlio Taliad Angladd untro o'r Gronfa Gymdeithasol. Efallai y bydd angen i chi ad-dalu rhywfaint o'r arian neu'r cyfan o ystad y person sydd wedi marw.

Cymorth gyda chostau angladd

Taliad cymorth profedigaeth

Os yw eich gŵr, gwraig neu bartner sifil wedi marw yn ystod y 21 mis diwethaf, gallech chi fod yn gymwys am Daliad Cymorth Profedigaeth.

Mae'n rhaid i chi wneud cais o fewn 3 mis i farwolaeth eich partner chi i gael y swm llawn. Gallwch hawlio arian hyd at 21 mis ar ôl eu marwolaeth ond byddwch chi'n cael llai o daliadau misol.

Taliad Cymorth Profedigaeth

Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw/Gŵr Gweddw

Mae Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw yn bensiwn di-dreth y gallech chi fod yn gymwys amdano os bu eich gŵr, gwraig neu bartner sifil farw o ganlyniad i wasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi yn ystod cyfnod o ryfel.

Rhagor o wybodaeth am eich cymhwyster chi a sut i ymgeisio.

Cymharu trefnwyr angladdau

Yn aml, nid oes gan bobl fynediad at wybodaeth glir ynghylch eu hopsiynau angladdau, ac yn talu mwy nag sydd angen. Mae Funeral Choice yn darparu cyngor annibynnol rhad ac am ddim i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r trefnwyr angladdau gorau yn lleol ac ystyried eu prisiau nhw.  

Fel arall, gallwch ymweld â gwefan Funeralbooker, y safle cymharu diduedd am ddim ar gyfer gwasanaethau angladdau yn y Deyrnas Unedig.

Maen nhw'n gweithio'n uniongyrchol gyda threfnwyr angladdau lleol, sy'n datgan costau cywir a manwl.

Mae defnyddwyr yn darparu eu cod post nhw ac yn dewis o ychydig o ddewisiadau, megis amlosgi neu gladdu. Yna, gallan nhw ddewis o amrywiaeth o drefnwyr angladdau cyfagos yn seiliedig ar lefel gwasanaeth a chost.

Cysylltwch â ni