Pleidleiswyr Ifan

Mae troi’n 16 yn dod â hawliau a chyfrifoldebau newydd, gan gynnwys bod yn gymwys i bleidleisio am y tro cyntaf.

Drwy gofrestru i bleidleisio, byddwch yn cael llais pwysig ar eich dyfodol. Wedi cyrraedd 16, does dim ffordd well o newid pethau. Byddwch yn gallu pleidleisio mewn Etholiadau Llywodraeth Leol a’r Senedd. Yn 18 oed byddwch yn gallu pleidleisio ym mhob etholiad arall, gan gynnwys yr Etholiadau Seneddol.

Darganfyddwch mwy am gofrestru eich pleidlais a sut mae’r broses etholiadau

yn gweithio drwy ddilyn y dolenni canlynol:

Fel pleidleisiwr/wraig ifanc, rydych yn cael eich annog i wirio’r gofrestr er mwyn sicrhau eich bod wedi cofrestru, yn enwedig gan ei fod yn debygol fod rhywun arall wedi cwblhau’r ‘ffurflen ymholiad tai’ a anfonwyd i’ch cartref. Os nad yw eich enw wedi ei rhestri neu nad ydych yn siŵr os ydych wedi cofrestru, gallwch gofrestru ar-lein. Peidiwch â phoeni am gofrestru ddwywaith - byddwn yn gwirio am hynny.

Mae cofrestru i bleidleisio yn bwysig oherwydd mae’n profi lle rydych yn byw, sydd yn rhywbeth hanfodol pan rydych yn gwneud cais am fenthyciad i fyfyrwyr, cyfrif banc, neu hyd yn oed prynu ffôn symudol.

Cofrestru i bleidleisio os ydych yn fyfyriwr/wraig

Os ydych yn fyfyriwr/wraig gyda chyfeiriad cartref a chyfeiriad yn ystod y tymor, gallwch gofrestru i bleidleisio o’r ddau gyfeiriad, dim ond nad yw’r ddau yn dod o dan ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mewn etholiadau cynghorau lleol, gallwch bleidleisio yn y ddau le. Mewn etholiad cyffredinol neu Ewrop, rhaid i chi ddewis pleidleisio mewn un lle yn unig.

“Walkthrough and register to vote”.
 

 
Cysylltwch â ni