Siarter Galarwyr

Yn y blynyddoedd diwethaf, cafwyd beirniadaeth gynyddol ynghylch rhai arferion mewn angladdau modern. Yn 1996, fe wnaeth y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (yr ICCM) gydnabod y sefyllfa hon a chynhyrchu'r Siarter Galarwyr er mwyn gwneud gwelliannau.

Mae cynnwys y Siarter wedi'i seilio ar brofiadau rheolwyr mynwentydd ac amlosgfeydd gyda theuluoedd sy'n galaru, yn ogystal ag ymgynghori â grwpiau elusennol a phroffesiynol sy'n ymwneud â phobl mewn galar. Yn anffodus, nid yw'r Siarter wedi cael ei chefnogi gan sefydliadau sy'n cynrychioli trefnwyr angladdau a phêr-eneinwyr. Y gobaith yw y gellir sicrhau eu cefnogaeth yn y dyfodol er mwyn galluogi i hawliau gael eu cynnig pan fydd y bobl hyn yn cael eu cyflogi.

Bydd yr hawliau o fewn y Siarter ar gael yn unrhyw fynwent neu amlosgfa lle mae'r Siarter Galarwyr wedi cael ei mabwysiadu'n ffurfiol gan y rheolwyr. Yn y ddogfen hon cyfeirir atynt fel “Aelodau'r Siarter”.

Siarter Galarwyr(PDF 352kb)

Egwyddorion Arweiniol (PDF 14kb)

Cysylltwch â ni