Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datblygu Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i’r Anabl newydd ac mae’n ceisio barn trigolion a rhanddeiliaid.

Bydd cyfnod ymgynghori rhwng 14 Tachwedd 2023 a 7 Chwefror 2024 er mwyn i bobl rannu eu barn a dweud eu dweud ar y polisi arfaethedig. Mae modd gwneud hyn drwy ymweld â.

Mae'r polisi hwn yn mynd i'r afael â'r canlynol:

  • Adfywio cymunedau sy'n dirywio
  • Lleihau nifer yr achosion o dai afiach
  • Dychwelyd tai sector preifat sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir nôl i ddefnydd
  • Darparu Addasiadau ar gyfer pobl anabl
  • Galluogi pobl glwyfadwy i aros yn eu cartref lle gallant deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus
  • Gwella safonau yn y sector rhentu preifat 

Ym mis Gorffennaf 2002, cyflwynodd y Llywodraeth, drwy gyfrwng Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio, newidiadau sylweddol o ran Adnewyddu Tai'r Sector Preifat drwy ddiddymu llawer o'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n rheoli darpariaeth grantiau tai a'i disodli gyda phŵer newydd, eang ei gwmpas gan roi'r gallu i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ar gyfer adnewyddu tai mewn unrhyw ffurf.

Rhoddodd y Gorchymyn lawer mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol wrth ddyfeisio strategaeth i ddelio ag amodau gwael yn y sector preifat; yn nhermau'r dulliau polisi sydd ar gael iddynt a'u gallu i weithio mewn partneriaeth ag eraill. Roedd yn amod fod yn rhaid i awdurdodau gynhyrchu a chyhoeddi polisi yn egluro sut y byddai'r pwerau newydd yn cael eu defnyddio. Ym mis Mehefin 2003 cynhyrchwyd Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae ein polisi yn destun adolygiad parhaus; mae'r fersiwn gyfredol yn ystyried diwygiadau polisi ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa sydd wedi digwydd o ganlyniad i anghenion newidiol a darpariaeth cyllid cyfalaf sy'n lleihau.

Cysylltwch â ni