Safonau'r Gymraeg

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn disodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, yng Nghymru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac felly ni all yr iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes rhaid i gyrff cyhoeddus mwyach datblygu a gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg, ond yn hytrach rhaid iddynt gydymffurfio â set o Safonau Iaith Gymraeg cenedlaethol.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Hysbysiad Cydymffurfio sy'n nodi pa rai o'r 176 safon yn y ddeddfwriaeth mae’n rhaid i’r awdurdod lleol cydymffurfio â hwy, ynghyd ag unrhyw eithriadau a'u dyddiadau gweithredu. Mae’r Hysbysiad Cydymffurfio dyddiedig 30.09.16 yn cael ei dderbyn gan yr awdurdod, ynghyd â’r eithriadau a ynghyd â'r amrywiadau a wneir ar 20.09.16 a 23.01.17.

Cofnodir ein cynnydd bob blwyddyn yn Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg, sydd wedi’i cyhoeddi isod ar gyfer 2022-2023. Cymeradwyodd Cabinet y cyngor i gyhoeddi’r adroddiad ar 14 Mehefin 2022.

Erbyn 30ain Mawrth 2016 mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi dogfen yn nodi sut mae'n bwriadu cydymffurfio ar lefel gorfforaethol gyda’r Safonau a beth yw ei brosesau mewnol ar gyfer goruchwylio a monitro'r gweithredu. Cyhoeddir y ddogfen hon felly, isod.

Strategaeth Iaith Gymraeg 2022 - 2027

Yn esbonio sut mae’r awdurdod lleol, mewn cydweithrediad â’i bartneriaid yn bwriadu mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn ehangach yn y fwrdeistref sirol. Ewch i'n adran Strategaeth Iaith Gymraeg am fwy o fanylion.

Cwynion Iaith Gymraeg

Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Cyngor i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, defnyddiwch weithdrefn gwyno'r Cyngor trwy'r ddolen ganlynol - Cwynion am un o wasanaethau’r cyngor.

Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw gwynion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg:

Gwefan Comisiynydd y Gymraeg
Cysylltwch â ni