Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022 - 2032

Mae gennym darged uchelgeisiol i gynyddu’r nifer o ddisgyblion a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2032 ac rydym wedi datblygu gweithredoedd lefel uchel trwy bob agwedd yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i gyflawni hyn.

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut yr ydym yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o randdeiliaid i weithio tuag at gyflawni uchelgais Cymraeg 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â Rhaglen Lywodraethu 2021-2026. Bydd yr arian yn cefnogi ein dyheadau ar gyfer Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus beth bynnag eich statws economiadd-gymdeithasol. Mae'r cynllun hwn wedi'i gysylltu'n gynhenid â chyflawni ein targedau integredig, gan ddefnyddio'r egwyddorion datblygu cynaliadwy, ar draws bwrdeistref sirol Caerffili gan gynnwys cynllun Asesu Digonolrwydd Gofal Plant 2022-2027, Strategaeth Iaith Gymraeg 2022-2027 a'n Cynllun Corfforaethol Caerffili 2018-2023 yn enwedig Amcan 1, Gwella Cyfleoedd Addysg i Bawb, a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 - Amcan 5 - Iaith Gymraeg.

Ein targed 10 mlynedd dros oes y cynllun hwn yw cynyddu'r lleoedd ym mlwyddyn 1 i rhwng 26% (520) a 30% (600) o blant mewn addysg gyfrwng Gymraeg erbyn 2030/31.

Llywodraeth Cymru sy'n gosod y targed lleiaf o 26% ar gyfer dysgwyr ym mlwyddyn 1 erbyn 2032 er mwyn cwrdd â'r targed 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn targed 2050. Er mwyn cyrraedd y targed uchelgeisiol hwn, bydd angen i ni adeiladu Ysgol Gynradd newydd ac ehangu ysgolion eraill i greu'r lleoedd. Yn ogystal, bydd angen cynllun cyfathrebu arnom i gynyddu nifer o bobl sydd yn derbyn y lleoedd hynny. Bydd hefyd angen darpariaeth ychwanegol yn Ti a Fi a’r Cylchoedd Meithrin yn y blynyddoedd cynnar.

Pan fyddwn yn ehangu ein darpariaeth addysg Gymraeg, bydd angen i ni hefyd ehangu ein gweithlu sy'n siarad Cymraeg ynghyd â nifer sylweddol o gamau eraill a amlygwyd ar ddiwedd pob maes canlyniad o'r cynllun.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022–2032 (PDF)