Strategaeth wrthdlodi

Mae tlodi yn niweidio rhagolygon pobl a’u dyfodol hirdymor. Mae hefyd yn gosod baich ar adnoddau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae er budd pawb ohonom felly i fynd i'r afael â thlodi.

Mae gan Gyngor Caerffili hanes a phrawf hir o fynd i'r afael â thlodi drwy amrywiaeth o wasanaethau craidd, yn ogystal â'r tair rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf a Chefnogi Pobl. Fel landlord rydym yn darparu cartrefi o ansawdd da ac yn gweithio'n galed i gefnogi ein tenantiaid ac rydym yn adeiladu ar hyn gyda'n rhaglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru. Rydym hefyd yn gweithio'n weithredol gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth fel yr adlewyrchir yn ein cynllun integredig sengl, Caerffili’n Cyflawni.

Mae'r Strategaeth Wrthdlodi yn datgan yn glir ymrwymiad Cyngor Caerffili i fynd i'r afael â thlodi. Mae'n cadarnhau'r flaenoriaeth a roddwn i'r mater hwn. Mae hefyd yn dwyn ynghyd y corff eang o weithgarwch sydd gennym ar waith i liniaru effeithiau tlodi, i godi dyheadau, i gefnogi pobl allan o dlodi, ac i atal tlodi.

Mae arnom angen dull cynhwysfawr o fynd i'r afael â thlodi ac rydym yn sylweddoli na allwn fynd i'r afael â thlodi ar ein pen ein hunain, ond rydym yn awyddus i nodi ein hymrwymiad i chwarae ein rhan: Mae Cyngor Caerffili yn ymrwymedig i sicrhau bod ei thrigolion yn gallu byw bywydau llawn heb rwystr o ran mwynhau safon dderbyniol o fyw o ganlyniad i anfantais economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol.

Strategaeth Wrthdlodi (PDF)