FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Ceisiadau am wybodaeth

Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo bod yn agored a thryloywder yn y ffordd y byddwn yn ymddwyn. Polisi Mynediad i Wybodaeth sydd Heb ei Chyhoeddi.

Drwy’r wefan hon, dogfennau pwyllgor a chyhoeddiadau eraill, y nod yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am benderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd.  Os hoffech weld gwybodaeth a gofnodir sydd gennym, nad yw ar gael eto, gallwch wneud cais amdani. 

Ceisiadau am wybodaeth a gofnodir

Rhoddir gwybodaeth a gofnodir drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol gan mwyaf.

Dan y ddeddfwriaeth hon, ymrwymwn i wneud y wybodaeth a nodir yn y Cynllun Cyhoeddi Model i Awdurdodau Lleol gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar gael. Rydym hefyd yn cyhoeddi llawer o setiau data ar y wefan hon.

Byddai’n ein cynorthwyo wrth ddelio â’ch cais pe byddech yn cyflwyno'ch cais ar-lein neu’n cysylltu â'r uned wybodaeth dros e-bost.

Gwneud eich cais ar lein>

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Fel arfer, cewch ymateb i’ch cais ymhen 20 diwrnod gwaith. Weithiau, nid oedd modd datgelu gwybodaeth, neu efallai y bydd ffi i’w thalu. Os felly, byddwn yn egluro pam.

Mae rhagor o wybodaeth am Ryddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ar gael oddi wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Ceisiadau am wybodaeth a gofnodir amdanoch chi’ch hun (Cais Gwrthrych am Wybodaeth)

Mae gan unigolion (neu’r rhai sy’n gweithredu ar eu rhan) yr hawl i ofyn am gopi o’r data personol a gedwir amdanynt. Gweler Hawliau Testun Data – Hawliau Mynediad i gael rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â ni