Cwestiynau a chwynion

Cysylltwch â’r gwasanaeth perthnasol yn yr achos cyntaf os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y ffordd y mae’r Cyngor yn delio â gwybodaeth amdanoch, neu ynghylch ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cysylltwch â’r Uned Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol. Yr Uned yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw apêl neu gŵyn fewnol ynghylch y ffordd y mae’r Cyngor yn trin gwybodaeth. Os penderfynwch gyflwyno apêl/cwyn fewnol, cynhelir ymchwiliad annibynnol gan uwch aelod priodol o’r staff.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad eich apêl neu gŵyn fewnol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Ni fydd eich cwyn fel rheol yn cael ei ystyried os yw eisoes wedi bod yn destun y broses apelio neu gwyno fewnol.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
E-bost: wales@ico.org.uk
E-bost: www.ico.org.uk

Cysylltwch â ni