FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cynnwys deiliaid contract

Rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod deiliaid contract yn cael mynegi barn am y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, eu cartrefi a’r ardaloedd maen nhw’n byw ynddynt. Rydyn ni am rymuso deiliaid contract i gymryd rhan ar lefel sy’n addas iddyn nhw. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gynnig ystod o gyfleoedd i gymryd rhan a thrwy gynorthwyo grwpiau tenantiaid a phreswylwyr.

Ffyrdd o gymryd rhan

Yn galw holl ddeiliaid contract Cartrefi Caerffili.  Yn ystod y cyfnod anarferol hwn, rydyn ni'n dal wedi ymrwymo i'ch cynnwys chi wrth ddatblygu a siapio gwasanaethau Tai yn y dyfodol. Hoffech chi rannu eich barn fel y gallwn ni sicrhau bod deiliaid contract yn aros wrth galon popeth a wnawn ni? Does dim rhaid i chi adael eich cartref chi hyd yn oed i wneud hynny!

Oherwydd Covid-19, mae ein gweithgareddau ni’n newid. Rydyn ni’n edrych ar ffyrdd newydd i gynnwys deiliaid contract a sut y gallwn ni barhau â’n gweithgareddau ni mewn ffordd wahanol.

  • Partneriaeth Gwella Tai - Mae'r Bartneriaeth Gwella Tai yn cynnwys deiliaid contract sydd am weithio gyda ni i wella gwasanaethau tai. Nid oes angen unrhyw sgiliau arbenigol. Y cyfan sydd ei angen arnom ni yw eich gwybodaeth a'ch profiad chi fel deiliad contract Cartrefi Caerffili. Os oes gennych chi ychydig oriau'r mis am 6 mis o'r flwyddyn yn rhydd, cysylltwch â ni. Bydd yr holl dreuliau rhesymol yn cael eu talu.

  • Adolygwyr y cylchlythyr - Adolygwyr y cylchlythyr yw deiliaid contract sy’n rhoi adborth i ni ar gylchlythyr Cartrefi Caerffili a’r ffyrdd eraill rydyn ni’n cyfathrebu â deiliaid contract, a gallan nhw wneud hynny oll o’u cartrefi eu hunain! Bob tro bydd Adolygwr yn rhoi adborth i ni, bydd ganddo gyfle i ennill taleb siopa ar gyfer y stryd fawr gwerth £25!  Adolygwyr y clychythyr pdf

  • Cyfnewidfa Wybodaeth - Sesiwn anffurfiol yw hon lle gall deiliaid contract ddarganfod mwy am sut mae modd i Cartrefi Caerffili a deiliaid contract gydweithio i wella gwasanaethau tai. Mae hefyd yn gyfle da i gwrdd ag eraill, a siarad â nhw. Cysylltwch â ni i gael gwybod pryd mae’r gyfnewidfa nesaf yn cael ei chynnal.

  • Grwpiau Ffocws - Grwpiau o ddeiliaid contract sy’n dod at ei gilydd i roi eu barn i ni am un agwedd benodol ar y gwasanaeth, er enghraifft fforddiadwyedd rhent. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

  • Arolygon - Arolygon papur neu ar-lein i gasglu barn am wahanol wasanaethau tai. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu i ddangos diddordeb mewn arolygon yn y dyfodol. 

Hyfforddiant

Felly, rydych wedi penderfynu yr hoffech gymryd rhan, ond nid ydych yn sicr a ydych yn meddu ar y profiad a’r sgiliau i wneud hynny? Gallwn gynnig sesiynau hyfforddi am ddim i'ch cefnogi a'ch helpu i fod yn rhan o Dai Caerffili, tra hefyd yn adeiladu'ch sgiliau. Bydd mynychu cyrsiau hyfforddi nid yn unig yn cynyddu eich gallu i wneud gwahaniaeth go iawn, ond fe all gynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth a rhoi hwb i'ch hyder hefyd.

Canllaw hyfforddiant (PDF)

Treuliau a theithio

Byddwn yn ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei wario ar deithio yn ôl a ‘mlaen i gyfarfodydd. Os nad oes car gennych, byddwn yn gwneud trefniadau i’ch cludo yno. Byddwn yn talu costau gofal hefyd os oes angen gofalu am rywun tra byddwch yn mynychu cyfarfodydd.

Llyfryn treuliau gwirfoddolwyr (PDF)

Cysylltwch â ni