Maer

Cllr-Mike-Adams-(1).jpg

Maer Caerffili – y Cynghorydd Mike Adams

Mae Maer newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Mike Adams, wedi datgelu mai ei elusen ddewisol am y flwyddyn yw Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion.

Derbyniodd Mike swydd pennaeth dinesig yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor a gafodd ei gynnal ddydd Iau 11 Mai. Mae wedi dewis y Cŵn Tywys fel yr elusen ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd, ar ôl rhoi i'r elusen fel unigolyn am nifer o flynyddoedd. Mae’n gobeithio y bydd pobl y fwrdeistref yn ymuno ag ef a Gloria yn 2023-24 trwy godi rhywfaint o’r arian sydd ei angen i fridio, magu a hyfforddi cŵn bach i roi'r hyder a’r cymorth sydd eu hangen ar ragor o bobl sydd â nam ar eu golwg i fyw eu bywydau’n annibynnol ac i'r eithaf.

Dywedodd y Cynghorydd Adams “Mae'n anrhydedd mawr cael gwasanaethu fel Maer y fwrdeistref sirol dros y flwyddyn i ddod, mae fy ngwraig, Gloria, a minnau'n edrych ymlaen at gynrychioli bwrdeistref sirol Caerffili a'i thrigolion mewn amrywiaeth o ymgysylltiadau dinesig yr ydyn ni’n gobeithio eu cael yn y flwyddyn i ddod. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â sefydliadau a thrigolion lleol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau.”

Ar ôl gweithio yn South Wales Switchgear o 1966 hyd 1992, aeth Mike yn fyfyriwr aeddfed, gan gwblhau gradd BA mewn Daearyddiaeth ac Astudiaethau Ewropeaidd a graddio â lefel 2:1 ym 1996.

Ers hynny mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cyfnod byr mewn hunangyflogaeth, cyfnod dros dro i Blaid Lafur Cymru, yna yn ôl at beirianneg ac yn olaf fel gwas sifil. Yn ystod y cyfnod diwethaf hwnnw, safodd Mike fel ymgeisydd Llafur ym Mhontllan-fraith a chael ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2004. Mae wedi parhau i gynrychioli trigolion ward Pontllan-fraith ers hynny. Ymddeolodd Mike o'i waith yn 2017.

Bu'n briod i'w wraig Gloria am 50 mlynedd ac mae ganddyn nhw ddau fab. Ar ôl chwarae rygbi a chriced yn yr ysgol, mae Mike yn parhau i fod yn gefnogwr chwaraeon brwd, a, phan nad yw’n cyflawni ei ddyletswyddau yn cynrychioli etholwyr, mae modd dod o hyd iddo yn gwylio pêl-droed yn aml. Mae hefyd yn mwynhau darllen (yn enwedig nofelau gwleidyddol cyffrous) a cherdded mewn ardaloedd gwledig lleol ar y penwythnosau

Maer yn croesawu gwahoddiadau i fynd i ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau lleol. Cysylltwch â Swyddfa’r Maer i gael rhagor o wybodaeth. Efallai na fydd hi'n bosibl i'r Maer fynd i bob digwyddiad, ond os yw'r Maer ar gael, byddwn ni’n cysylltu â chi mewn da bryd.

Meiri Blaenorol Caerffili

  • 2022 - Elizabeth M. Aldworth
  • 2020 - Carol Andrews
  • 2019 - Julian Simmonds
  • 2018 - Michael Adams
  • 2017 - John Bevan
  • 2016 - Dianne Price
  • 2015 - Leon Gardiner
  • 2014 - David Carter
  • 2013 - Michael Gray
  • 2012 - Gaynor Oliver
  • 2011 - Vera Jenkins
  • 2010 - James Fussell
  • 2009 - John Evans
  • 2008 - Anne Collins
  • 2007 - Allen Williams
  • 2006 - Elizabeth Aldworth

 

Contact us