FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cyngor busnes

Mae nifer o adnoddau ar gael sydd wedi'u cynllunio er mwyn helpu busnesau i gydymffurfio â'r gyfraith.

Adnodd am alergenau (amlieithog)

Mae adnodd amlieithog am alergenau wedi cael ei gynhyrchu yn Saesneg, Cymraeg, Bengaleg, Bwlgareg, Cantoneg, Hwngareg Cwrdeg, yr iaith Fandarin, Pwnjabeg, Pwyleg, Rwmaneg, Twrceg ac Wrdw i godi ymwybyddiaeth o alergenau a chynorthwyo busnesau bwyd i gydymffurfio â'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a chyngor am Gyfraith Natasha, a ddaw i rym ar 1 Hydref 2021.

Mae'r adnodd rhad ac am ddim hwn yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae'n cynnwys:

  • Fideo yn cyflwyno gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o alergenau
  • Taflen yn ymdrin â negeseuon allweddol y cyflwyniad
  • 'Day in the Life of Chloe' a ‘Megan’s Story’ (ffilmiau byr wedi’u trosleisio ac gydag isdeitlau)
  • Poster ‘Rhowch wybod inni os oes gennych Alergeddau neu anoddefiadau bwyd’
  • Taflen Adnoddau

Maen nhw ar gael ar https://www.tradingstandards.uk/foodallergens/resources.

Gwefan 'Business Companion'

Mae gwefan 'Business Companion' yn rhoi gwybodaeth i fusnesau ac unigolion sydd angen gwybod am safonau masnach a deddfwriaeth diogelu defnyddwyr.

Gall busnesau ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau a materion yn cynnwys:

  • Cynnyrch â chyfyngiad oed arnynt
  • Iechyd a lles anifeiliaid
  • Hawliau defnyddwyr
  • Disgrifiad o nwyddau a gwasanaethau
  • Masnachu teg
  • Labelu bwyd
  • Diogelwch cynnyrch
  • Gwerthu ar y rhyngrwyd
  • Pwysau a mesuriadau
Chwilio drwy'r wefan 'Business Companion'

Penaethiaid Safonau Masnach Cymru (WHoTS)

Mae WHoTS yn darparu gwybodaeth am ble y gallwch gael help a chyngor p'un a ydych yn fusnes neu'n ddefnyddiwr.

Ewch i wefan Safonau Masnach Cymru

Côd ar yr arferion orau ar gyfer Sefydliadau Lles Anifeiliaid

Mae'r Cod yn esbonio'r hyn y mae angen i Sefydliadau Lles Anifeiliaid ei wneud i fodloni'r safon gofal sy'n ofynnol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Bwriad y Cod Ymarfer yw annog y rhai sy'n gyfrifol am ofalu am anifeiliaid sydd yng ngofal Sefydliadau Lles Anifeiliaid i fabwysiadu'r safonau hwsmonaeth uchaf. Mae'n amlinellu'r fframwaith ar gyfer darparu lefelau rhagorol o ofal y dylid eu dangos hefyd. Dylid cydnabod y rhain yn gyffredinol fel meincnod ar gyfer pob unigolyn a sefydliad sy'n gyfrifol am ofalu am anifeiliaid. Mae'r Cod hwn hefyd yn rhoi amlinelliad o'r agweddau gweinyddol amrywiol ar weithredu Sefydliad Lles Anifeiliaid.

Cyngor gan yr adran safonau masnach

Gall ein swyddogion safonau masnach roi cyngor i fusnesau am y canlynol

  • Enwau busnesau
  • Credyd defnyddwyr
  • Contractau
  • Nwyddau ffug
  • Disgrifiadau o nwyddau a gwasanaethau
  • Bwyd
  • Prisiau
  • Diogelwch cynnyrch
  • Gwerthu ar y rhyngrwyd
  • Canllawiau cludfwyd
  • Pwysau a mesuriadau

Os ydych yn fusnes lleol ym mwrdeistref sirol Caerffili a hoffech cael cyngor diduedd, am ddim, cysylltwch â ni.

Privacy Notice

Hysbysiadau preifatrwydd: Cyngor a Gorfodaeth Busnes (PDF)

Cysylltwch â ni