FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Tîm Adnewyddu Menter Busnes

Gall y Tîm Adnewyddu Busnes a Menter roi cyngor a chanllawiau manwl i fusnesau newydd a phresennol sy'n gweddu i'w hanghenion unigol.

Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau partner a gwasanaethau cymorth, sydd ag arbenigedd ar bob agwedd o fusnes, gan gynnwys: -

  • cynllunio busnes
  • trethi busnes 
  • data, mapiau a darlun cyffredinol o'r economi leol
  • datblygu eich gweithlu
  • cyllid a grantiau gan y cyngor asiantaethau eraill megis Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyllid Cymru a Chroeso Cymru
  • iechyd a diogelwch, iechyd yr amgylchedd, cynllunio, safonau masnach a gwybodaeth rheoleiddio arall
  • mewnfuddsoddi
  • TG a chyngor ar werthu ar-lein
  • cymorth cyfreithiol
  • masnachu a rhwydweithio lleol
  • mentora a hyfforddi, seminarau a gwasanaethau cefnogi busnes
  • recriwtio a phrentisiaethau
  • gwerthu a marchnata
  • Gwerthu i'r cyngor
  • safleoedd ac adeiladau
  • sgiliau a chyflogaeth
  • dechrau busnes
  • cyngor ar fusnes twristiaeth

Ar gyfer trafodaeth gychwynnol am yr hyn y gallwn ei gynnig i'ch busnes, cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes.

Cysylltwch â ni

Tudalennau cysylltiedig

Grantiau a chyllid busnes

Elsewhere on the web

Fforwm Busnes Caerffili | Llywodraeth Cymru