Enwi strydoedd a rhifo

Rydyn ni’n gyfrifol am enwi pob stryd ac am rifo neu enwi eiddo o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae gennym ni gyfrifoldeb statudol i sicrhau bod unrhyw enwau newydd neu ddiwygiedig strydoedd ac eiddo ac/neu rifau eiddo newydd neu ddiwygiedig yn cael eu dyrannu'n rhesymegol ac mewn modd cyson.

Nid oes gan y Post Brenhinol unrhyw bŵer statudol i enwi strydoedd, enwi na rhifo eiddo neu ailenwi neu ail-rifo eiddo; fodd bynnag, yr unig ddyletswydd sydd ganddo yw cyhoeddi neu ddiwygio codau post unwaith y bydd y Cyngor wedi cadarnhau manylion y cyfeiriad.

Mae rheoleiddio rhoi cyfeiriadau ar eiddo o fewn y Fwrdeistref Sirol yn sicrhau bod cysondeb a chywirdeb yn cael ei gynnal ac mae'n helpu gyda darparu gwasanaethau ac - yn bwysicaf oll - yn sicrhau y gall y gwasanaethau brys ddod o hyd i'r cyfeiriad.

Datblygiadau Newydd

Gwneud cais i ychwanegu / ailenwi / cael gwared ar enw i eiddo â rhif presennol  

Os hoffech chi ailenwi neu ychwanegu enw at eich eiddo yn swyddogol, cost y gwasanaeth hwn yw £55.13 y cais.

Er mwyn sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi mor effeithlon â phosibl, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Ffurflen gais wedi'i llenwi, ei llofnodi a'i dyddio
  • Cynllun y lleoliad
  • Y ffi gywir
  • Caniatâd gofynnol y perchennog os nad chi yw'r perchennog. 

Dadlwythwch y ffurflen gais PDF y gellir ei golygu ac anfon y ffurflen i: RhTELl@caerffili.gov.uk

Os ydych chi’n aros i gais cynllunio gael ei benderfynu ar gyfer yr eiddo/safle ar hyn o bryd, cysylltwch â RhTELl@caerffili.gov.uk am gyngor cyn cyflwyno’r ffurflen gais.

Ffurflen gais i ailenwi - ychwanegu enw at eiddo sy'n bodoli eisoes

Am fanylion ar sut i dalu, gweler y ffurflen gais.

Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn prosesu'ch cais am ailenwi/ychwanegu enw at eich eiddo ac yn rhoi penderfyniad i chi ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig eraill. Bydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cofnodi er mwyn rhoi gwybod i chi o'r penderfyniad ar eich cais ac at ddibenion ariannol, ond ni chânt eu rhannu ag eraill yn ystod y broses ymgynghori. Tasg gyhoeddus yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'ch gwybodaeth a byddwn yn cadw'ch manylion am 7 mlynedd.

Byddwn ni'n ymgynghori â'r Post Brenhinol i sicrhau nad oes enwau tai tebyg yn cael eu defnyddio yn y cyffiniau. Pan wneir penderfyniad ar eich cais, bydd manylion y cyfeiriad a gadarnhawyd yn cael eu rhannu ag adrannau mewnol perthnasol y Cyngor.

Mae gennych chi nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu'ch gwybodaeth a'ch hawliau, cliciwch Hysbysiad Preifatrwydd

I gael rhagor o wybodaeth am enwi strydoedd a rhifo, e-bostiwch RhTELl@caerffili.gov.uk.

Cysylltwch â ni