Trwydded i osod gwrthrychau ar y briffordd

I osod byrddau, cadeiriau neu gelfi dros dro eraill ar y palmant yng Nghymru a Lloegr mae arnoch angen trwydded oddi wrth eich awdurdod lleol.

Amodau’r drwydded

Amodau’r drwydded palmant (PDF)

Nodiadau cyfarwyddyd

Caffis stryd ar y briffordd: Nodyn cyfarwyddyd i ymgeiswyr (PDF)

Ffioedd

Mae’r ffioedd cychwynnol fel a ganlyn: -

  • £408 am gyfleusterau lluniaeth (i gynnwys TAW - £308 am gymeradwyaeth cynllunio am newid defnydd a £100 am gymeradwyaeth priffyrdd)
  • £160 am gyfleuster arddangos / hysbysebu (i gynnwys TAW – £60 am gymeradwyaeth cynllunio a £100 am gymeradwyaeth priffyrdd)
  • Y ffi adnewyddu flynyddol ddilynol i ymestyn y drwydded ar ôl y 12 mis cyntaf fydd £100, gyda chost gysylltiedig byrddau a chadeiriau ar ei phen
  • Codir £7.50 am bob cadair bob blwyddyn (Ebrill-Mawrth) a chost byrddau yw £30 yr un

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar lein.

Cydsyniad mud

Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid i’r cyngor brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 56 diwrnod dylech gysylltu â ni. Gallwch wneud hyn ar lein os gwnaethoch gais trwy’r gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnesau neu gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Cysylltwch â

Priffyrdd
Tŷ Penallta
Parc Tredomen 
Ystrad Mynach, Hengoed
CF82 7PG
Ffôn: 01495 235265
E-bost: highwayslicence@caerphilly.gov.uk