Hysbysiad tŵr oeri

Os ydych yn rheoli mangre annomestig rhaid ichi sicrhau eich bod yn hysbysu’r awdurdod lleol, neu yn yr Alban y cyngor ynys neu ddosbarth, am unrhyw dŵr oeri neu gyddwysydd anweddol (dyfeisiau hysbysadwy) yn y fangre.

Rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy fodd electronig) ar ffurflen sydd wedi’i chymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Rhaid ichi ein hysbysu am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth yn yr hysbysiad cyn pen un mis ar ôl y newid, yn ysgrifenedig.

Os yw’r ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy rhaid ichi ein hysbysu yn ysgrifenedig cyn gynted ag sy’n bosibl.

Crynodeb o’r drefn reoleiddio

Crynodeb o’r drefn reoleiddio sy’n berthnasol i’r drwydded hon 

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar lein.

Ein hysbysu am unrhyw dyrrau oeri neu gyddwysyddion anweddol yn eich mangre

Dweud wrthym am newid i unrhyw dyrrau oeri neu gyddwysyddion anweddol presennol yn eich mangre

Cydsyniad mud

Ie. Proses gofrestru yn unig yw hon.

Cysylltwch â ni