FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Swyddfa Rithwir Tredomen

P’un a ydych chi’n dechrau busnes newydd neu’n rhedeg eich busnes o’ch cartref yn barod, gall Swyddfa Rithwir Tredomen eich helpu chi i gadw eich gorbenion yn isel gan ddarparu mantais broffesiynol i’ch busnes – heb ymrwymiad ariannol i gontractau hirdymor a phrydlesi hir.

Gallwch chi arbed costau ychwanegol staffio a rhedeg swyddfa gan ddefnyddio'r swyddfa rithwir.

Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael drwy’r swyddfa rithwir:

  • Opsiynau cyfeiriad busnes i'w defnyddio fel cyfeiriad eich cwmni
  • Opsiynau i ddefnyddio gwasanaethau casglu post a'i anfon ymlaen
  • Lleoliad busnes nodedig sydd ag enw da
  • Ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd bwrdd gyda gwasanaeth llawn, Wi-Fi ar gael i'w rhentu ar gyfer cyfarfodydd busnes ar y safle, opsiynau arlwyo, parcio cwbl hygyrch ac amwynderau
  • Disgownt o 10% ar holl gostau rhentu ystafell gyfarfod ac ystafell gynadledda (ac eithrio arlwyo)

Nid ydyn ni bellach yn cynnig gwasanaeth ffôn neu ffacs ar gyfer ein Swyddfa Rithwir, ond mae ein safle â staff 24/7 yn cynnig gwasanaeth i gael eich post unrhyw bryd.

Mae'n haws nag erioed o'r blaen dod yn ddefnyddiwr y gwasanaeth hwn. I dalu, mae gennym ni ddau ddewis. Mae Opsiwn 1 yn daliad blynyddol o £396 gan gynnwys TAW (sy’n golygu mis o wasanaeth am ddim). Neu, gallwch chi ddewis talu drwy ddebyd uniongyrchol bob mis, sy’n costio £36 gan gynnwys TAW, ac mae gennych chi'r opsiwn i ganslo gyda rhybudd o 1 mis ar unrhyw adeg.

Nid ydyn ni bellach yn cynnig gwasanaeth ffôn neu ffacs ar gyfer ein Swyddfa Rithwir.

Am gais e-bostiwch DesgGymorthTenantiaid@caerffili.gov.uk.