Deddfwriaeth

Deddf Iechyd a Diogelwch ac ati yn y Gwaith 1974 sydd hefyd yn cael ei adnabod fel HASAW neu HSW, yw'r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch galwedigaethol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn nodi'r gofynion cyffredinol ar gyfer busnesau i sicrhau iechyd, diogelwch a lles y rheiny a allai gael eu heffeithio gan weithgareddau'r busnes e.e. ymwelwyr, gweithwyr a chontractwyr.

Offerynnau (neu Reoliadau) Statudol yw'r math eilaidd o ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddfau'r Senedd. Mae'r rhai yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau, o reoli asbestos i weithio o uchder. 

Gorfodi iechyd a diogelwch yn y gwaith

Rydym yn gyfrifol am orfodi materion iechyd a diogelwch mewn amrywiaeth o safleoedd nad ydynt yn safleoedd diwydiannol, er enghraifft: -

  • siopau
  • swyddfeydd
  • warysau
  • bwytai
  • gwestai
  • siopau trin gwallt
  • sinema a mannau adloniant eraill

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn gyfrifol am safleoedd eraill, er enghraifft:-

  • ffatrïoedd
  • safleoedd adeiladu
  • ffermydd

Am wybodaeth fanylach am y mathau o safleoedd sy'n cael eu harolygu gan y Cyngor a'r HSE, ewch ar wefan Awdurdod Gorfodi HSE. 

Mae ein Tîm Gorfodi Iechyd a Diogelwch yn gorfodi safonau yn y gweithle drwy wneud y canlynol: -

  • Arolygu busnes a sail reolaidd i asesu cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • Ymchwilio i ddamweiniau i bennu achos(ion) er mwyn anelu at atal hyn rhag digwydd eto
  • Ymchwilio i gwynion yn ymwneud ag amodau'r gweithle, a'u datrys
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch i gyflogwyr a gweithwyr trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol
  • Darparu cyngor i fusnesau ar y safle, dros y ffôn a/neu drwy anfon taflenni gwybodaeth
  • Darparu cyngor i weithwyr sy'n cael problemau iechyd a diogelwch yn y gwaith sy'n debygol o fod eisiau trafod eu pryderon gyda rhywun nad yw'n rhan o'r gweithle. Gall swyddogion gynnig cyngor a/neu ddelio â'r ymholiad fel cwyn.

Eich dyletswyddau fel cyflogwr

Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gyffredinol i 'sicrhau, cyn belled â'i fod yn ymarferol, iechyd, diogelwch a lles yr holl weithwyr'.  Mae hyn yn cynnwys: -

  • Darparu a chynnal a chadw offer a systemau gweithio sy'n ddiogel ac nad ydynt yn risg i iechyd
  • Trefniadau i sicrhau, iechyd a diogelwch wrth ddefnyddio, trin, storio a chludo nwyddau a sylweddau
  • Darparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau, hyfforddiant a goruchwyliaeth fel bo'n angenrheidiol i sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr yn y gwaith
  • Darparu a chynnal a chadw'r gweithle mewn cyflwr diogel gan sicrhau mynedfeydd ac allanfeydd diogel bob amser
  • Darparu a chynnal a chadw cyfleusterau lles ac amgylchedd gweithio cyfforddus

Eich dyletswyddau fel gweithiwr

Mae gan bob gweithiwr y dyletswyddau canlynol yn y gwaith: -

  • Cymryd gofal rhesymol am ei iechyd a diogelwch ei hun ac unrhyw unigolyn arall a allai gael ei effeithio gan ei weithredoedd neu esgeulustod
  • Cydweithredu â chydweithwyr i sicrhau cydymffurfiaeth â dyletswyddau cyfreithiol a osodir ar ei gyflogwr/chyflogwr.

Gwybodaeth bellach

Am ragor o wybodaeth am reoliadau yn y gweithle cysylltwch â'r canlynol: - 

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Adeiladau'r Llywodraeth
Phase 1
Ty-Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5JH
Ffôn: 02920 263000
Gwefan: www.hse.gov.uk

Cysylltwch â ni