Gwobrau dewisiadau iach

Datblygwyd y Wobr Dewisiadau Iach i wobrwyo arlwywyr ledled Cymru sy’n ei gwneud hi’n haws i’w cwsmeriaid wneud dewisiadau iach wrth fwyta allan.

Mae tair lefel, Efydd, Arian ac Aur ac mae’n ddilys am ddwy flynedd. 

Nod y wobr yw annog busnesau bwyd i ddarparu dewisiadau iachach i gwsmeriaid trwy ddefnyddio arferion arlwyo iachach.  Mae hefyd yn cydnabod y ddarpariaeth o ddewisiadau iachach i blant ac yn gwobrwyo hyfforddiant staff a hyrwyddo a marchnata dewisiadau iachach.

Mae’r wobr ar agor i bob math o safleoedd arlwyo sy’n arlwyo i’r cyhoedd ac sydd â sgôr hylendid bwyd o 3 neu uwch.

I gael y wobr caiff eich busnes ei asesu yn erbyn meini prawf sy’n seiliedig ar egwyddorion deiet cytbwys iach, hyfforddiant staff a marchnata a hyrwyddo dewisiadau iachach. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y ‘Healthy Options Step by Step guide’.

Cysylltwch â ni