Gwastraff masnachol - peryglus

Rhaid i bob busnes ddangos bod gwastraff peryglus yn cael ei waredu'n gywir gan sicrhau bod mesurau ar waith i wahanu, trin a storio gwastraff o'r fath yn gywir.

Mae'n anghyfreithlon cymysgu gwahanol fathau o ddeunyddiau gwastraff peryglus neu eu cymysgu nhw â gwastraff nad yw'n beryglus.

Bydd methu â chydymffurfio yn arwain at achos cyfreithiol.

I gael cyngor ar sut i drin asbestos, ffoniwch:

  • Llinell Gymorth Asbestos Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – 0845 345 0055
  • Llinell Gymorth Asiantaeth yr Amgylchedd – 0870 850 6506
  • Llinell Gymorth Cyfoeth Naturiol Cymru – 0300 065 3000

Mae'r Ddyletswydd Gofal yn cael ei gosod yn drymach ar fusnesau, fel cynhyrchwyr gwastraff. Os yw eich busnes chi’n cynhyrchu gwastraff peryglus, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os nad ydych chi wedi cofrestru, ni fydd yn bosib i wastraff peryglus gael ei gasglu oddi wrth eich safle.

Mathau o wastraff peryglus

Mae gwastraff peryglus yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Asbestos
  • Hidlyddion Olew
  • Gwrthrewydd
  • Hylif Brêc
  • Olew Iro
  • Tanwyddau cymysg
  • Batris asid plwm
  • Hylifau golchi darnau
  • Clytiau a gronynnau halogedig
  • Tiwbiau fflworoleuol
  • Gwastraff argraffu
  • Paent
  • Gweddillion Olew
  • Gwastraff Toddyddion, gan gynnwys pecynnu a chynwysyddion halogedig
  • Rhai Nwyddau Trydanol
  • Sgriniau Tiwb Pelydr Catod (setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron)
  • Deunyddiau gwastraff eraill wedi'u dosbarthu'n flaenorol fel 'Gwastraff Arbennig'

Rhaid i chi sicrhau bod gan y cwmni rydych chi'n ei ddewis i waredu eich gwastraff peryglus drwydded. Mae'n drosedd trosglwyddo gwastraff i gwmni nad yw wedi'i gymeradwyo gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi wastraff peryglus, ond ddim yn siŵr, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Cysylltwch â ni