FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach

Cyflwynwyd cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach yng Nghymru o 1 Ebrill 2018.

Mae'r cynllun parhaol yn cyfyngu ar nifer yr eiddo sy'n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach i ddau fesul trethdalwr ym mhob ardal awdurdod lleol. Os yw trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo mewn ardal awdurdod lleol, rhoddir rhyddhad ardrethi busnesau bach i'r ddau eiddo sy'n sicrhau bod talwr treth yn derbyn y rhyddhad uchaf posibl o dan y cynllun. 

Busnesau cymwys

Mae'r cynllun yn caniatáu y rhyddhad canlynol:

Adran A

  • Mae'r mwyafrif o eiddo a feddiannir â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai yn gymwys i gael rhyddhad o 100%. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu ardrethi busnes ar yr eiddo hynny.
  • Mae cyfradd y rhyddhad yn gostwng o 100% i 0% ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000. Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i swyddfeydd post ac eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl ar gyfer gofal plant gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig a eglurir isod.

Swyddfeydd Post

  • Mae Swyddfeydd Post (ac eiddo sy'n cynnwys Swyddfeydd Post) gyda gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn cael rhyddhad o 100%.
  • Mae Swyddfeydd Post (ac eiddo sy'n cynnwys Swyddfeydd Post) gyda gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad o 50%.

Adran B - Adeiladau Gofal Plant Cofrestredig

  • O 1 Ebrill 2019, bydd trethdalwyr sy'n ddarparwyr gofal plant cofrestredig lle defnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ofal dydd yn gymwys i gael rhyddhad o 100% os yw gwerth ardrethol yr eiddo yn £100,000 neu lai. 

Sut i wneud cais

Os oes gwerth ardrethol o hyd at £12,000 i'r eiddo rydych chi'n ei feddiannu ac mae'n dod o fewn Adran A uchod, caiff rhyddhad ardrethi busnesau bach ei gynnwys yn awtomatig i'ch bil felly does dim angen i chi wneud cais.

Os credwch fod yr eiddo rydych chi'n ei feddiannu yn bodloni'r meini prawf ar gyfer adeiladau Gofal Plant Cofrestredig a nodir yn Adran B uchod, ac nad ydych wedi gwneud cais am ryddhad eto, gallwch lawrlwytho ffurflen gais isod:

Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach - ffurflen gais (PDF 81kb)

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach, cysylltwch â ni