Gwerthoedd ardrethol ac apeliadau

Rhoddir gwerth ardrethol i’ch safle gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Rydym yn defnyddio’r gwerth hwn i gyfrifo faint o ardrethi busnes y dylech ei dalu.

Cedwir manylion am bob safle, gan gynnwys disgrifiad cryno a’r gwerth ardrethol, ar restr ardrethu lleol. Os bydd eiddo yn rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, mae’r gwerth ardrethol ond yn ymwneud â’r rhan annomestig gan y bydd treth gyngor yn daladwy ar y rhan ddomestig.

Adolygir gwerthoedd ardrethol bob pum mlynedd – gelwir hyn yn ailbrisio. Bydd ailbrisiad newydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2023 yn seiliedig ar renti’r farchnad ar 1 Ebrill 2021.

Dangosir manylion am werth ardrethol eich safle, a sut mae wedi’i gyfrifo, ar brisiad cryno'r eiddo. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwerth ardrethol presennol eiddo yng Nghymru a Lloegr a'r prisiad cryno ar wefan y Swyddfa Brisio.

Mae copi o’r rhestr ardrethu lleol ar gael:

Lluosydd

Mae'r gwerth ardrethol yn cael ei luosi gan ffigwr sy’n cael ei bennu'n flynyddol gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn y lluosydd) i gyfrifo'r ardrethi sy'n daladwy.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023, mae’r lluosydd wedi’i osod ar 53.5 ceiniog. Os yw gwerth ardrethol eich eiddo yn £20,000, byddem yn ei luosi gan 53.5c i gael cyfanswm o gyfraddau gros sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn o £10,700.

Os oes hawl gennych i unrhyw fath o ryddhad neu eithriad ardrethi, bydd y swm hwn yn cael ei ostwng wedyn unol â hynny.

Mae'r lluosydd fel arfer yn newid bob blwyddyn yn unol â chwyddiant (Mynegai Prisiau Defnyddwyr) ac eithrio yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn ailbrisio pan gaiff ei ddefnyddio i sicrhau bod y newidiadau cyffredinol mewn gwerthoedd ardrethol yn cael effaith niwtral o ran refeniw (h.y. mae'r cyfanswm o gyfraddau busnes a godir yn aros yr un fath). Gall Llywodraeth Cymru hefyd wneud rheoliadau i bennu swm amgen sydd yn is na'r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol flaenorol.

Beth i’w wneud os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir

Os ydych yn anghytuno â gwerth ardrethol eich eiddo, gallwch apelio i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn amodol ar gyfyngiadau amser penodol, am un o’r rhesymau canlynol:

  • Mae’r gwerth ardrethol cychwynnol yn y rhestr ardrethu yn anghywir, yn eich barn chi.
  • ​Mae’r gwerth ardrethol yn anghywir yn sgil newid materol yn yr eiddo. Er enghraifft, mae rhan o’r eiddo wedi’i dymchwel; rydych wedi ehangu’r eiddo, mae newid wedi bod yn ei ddefnydd; newid ffisegol yn yr ardal leol neu newid yn y defnydd a wneir o eiddo cyfagos.
  • Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi diwygio’r gwerth ardrethol a nodir ar y rhestr ardrethu lleol a’ch bod o’r farn bod y gwerth newydd yn anghywir.
  • ​Mae gwall yng nghofnod yr eiddo yn y rhestr ardrethu e.e. mae’r disgrifiad yn anghywir.
  • Dangosir eich eiddo ar y rhestr ond ni ddylai fod yno e.e. adeilad amaethyddol.
  • ​Rydych o'r farn bod penderfyniad y Tribiwnlys Prisio neu’r Uchel Lys yn cael effaith ar werth ardrethol eich eiddoO dan rai amgylchiadau, cyflwynir eich apêl i’r Tribiwnlys Prisio er ystyriaeth.

Ni allwch atal taliad neu wrthod talu ardrethi busnes gan eich bod yn aros am benderfyniad ar apêl yn erbyn gwerth ardrethol eiddo.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio pob eiddo busnes ar gyfer ardrethi busnes. Mae’r prisiad yn seiliedig ar wybodaeth sydd gan y VOA am eich eiddo. Gallwch weld a diweddaru’r wybodaeth hon yn gov.uk/voa/valuation.

Gallwch gysylltu â’r VOA yn gov.uk/cysylltu-voa. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu â’r VOA ar 03000 505 505.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd apeliadau yn erbyn ardrethi busnes annomestig yn newid yng Nghymru o 1 Ebrill 2023.

Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i dalwyr ardrethi yng Nghymru ddilyn y broses Gwirio Herio Apelio a defnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes. Darperir y gwasanaeth hwn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Darllenwch ganllaw cam wrth gam y VOA ar y broses Gwirio Herio Apelio.

Bydd y broses Gwirio Herio Apelio yn berthnasol i Restr Ardrethu 2023 yn unig, serch hynny mi fydd y system o wneud cynnig yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer y rhestrau ardrethu blaenorol.

Dyma'r cwestiynau a ofynnir amlaf gan gwsmeriaid am Gwirio, Herio Apelio:

A yw Llywodraeth Cymru yn newid y gyfraith o ran apelio yn erbyn Ardrethu Annomestig (ardrethi busnes)?

Ydy. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau newydd a fydd yn newid y broses apelio yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, y bydd gofyn i dalwyr ardrethi yng Nghymru ddilyn y broses Gwirio Herio Apelio a defnyddio cyfrif prisio ardrethi busnes.

Bydd apeliadau yn parhau i gael eu rheoli gan Dribiwnlys Prisio Cymru.

Pryd bydd y newidiadau hyn yn dod i rym?

Bydd y broses apelio newydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2023 ymlaen, sef y dyddiad pan fydd rhestr ardrethu 2023 yn dod i rym.

A yw’r broses newydd yn debyg i’r broses Gwirio Herio Apelio yn Lloegr?

Mae’r broses newydd yn cyd-fynd yn fras â’r un yn Lloegr.

Darllenwch ganllaw cam wrth gam y VOA ar y broses Gwirio Herio Apelio.

A fydd y newidiadau hyn yn berthnasol i fy ngwerth ardrethol presennol (hynny yw, yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn rhestr ardrethu 2017)?

Na fyddant. Bydd y newidiadau yn berthnasol i restr ardrethu 2023 yn unig. Daw hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.

Bydd unrhyw gynigion neu apeliadau sy’n weddill ar restr ardrethu 2017 yn cael eu prosesu drwy’r system apelio flaenorol.

O dan ba amgylchiadau y gallaf apelio ar Dribiwnlys Prisio Cymru?

Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar ôl cyflwyno Her, mae gennych yr hawl (o dan rai amgylchiadau) i apelio.

Mae angen i chi fynd â’ch apêl gerbron Tribiwnlys Prisio Cymru am adolygiad annibynnol, a hynny cyn pen 4 mis i’r penderfyniad am yr Her.

Os na fydd y VOA wedi’ch ateb cyn pen 18 mis i’r dyddiad pan wnaethoch gyflwyno Her, bydd gennych hefyd yr hawl i apelio ar Dribiwnlys Prisio Cymru.

A gaf i benodi asiant ar gyfer ardrethi busnes?

Cewch. Cewch benodi rhywun i ddelio â’ch ardrethi busnes ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar eich rhan.

Fodd bynnag, gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun. Does dim rhaid i chi ddefnyddio asiant na gofyn i rywun eich helpu. Penodi asiant ar gyfer ardrethi busnes.

Beth yw cyfrif prisio ardrethi busnes?

Mae cyfrif prisio ardrethi busnes yn wasanaeth digidol a ddarperir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Gallwch ddefnyddio’r cyfrif hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio gwerth ardrethol eich eiddo
  • rhoi gwybod i’r VOA am newidiadau i’ch eiddo
  • rhoi gwybod i’r VOA os ydych yn meddwl bod eich gwerth ardrethol yn rhy uchel
  • penodi asiant i weithredu ar eich rhan

Beth os nad ydw i’n gallu defnyddio gwasanaeth digidol?

Os na allwch gofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes, gallwch benodi cynorthwyydd dibynadwy i greu cyfrif ar eich cyfer. Nid yw hyn yr un peth â phenodi asiant.

Gallai cynorthwyydd dibynadwy fod yn asiant, yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n sefydliad gwirfoddol.