News Centre

Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows

Postiwyd ar : 03 Mai 2024

Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Mae digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sul 12 Mai 2024, ac mae'n argoeli bod yn ddigwyddiad cyffrous sy'n arddangos ysbryd y gymuned. Er mwyn diogelwch a mwynhad y rhedwyr a'r gwylwyr, mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi y bydd ffyrdd ar gau er mwyn cynnal y rasys.

Bydd y ras 10 cilomedr, sy'n dechrau ac yn gorffen yn Crescent Road, yn ymlwybro drwy galon Caerffili, gan fynd heibio i dirnodau eiconig fel canol y dref a'r castell mawreddog. Bydd hefyd ras 2 gilomedr, gydag 800 o redwyr brwdfrydig yn cymryd rhan ynddi, yn ôl amcangyfrif.

Er mwyn diogelwch pawb dan sylw, bydd nifer o ffyrdd ar gau yn ystod y digwyddiad. Bydd Crescent Road ar gau rhwng 6.00am ac 1.00pm, a bydd Cardiff Road ar gau rhwng 9.00am a 12.00pm. Hefyd, bydd y ffordd rhwng Pont Bedwas a Van Road ar gau yn llwyr rhwng 9.30am a 12.00pm.

Ymhlith y ffyrdd eraill a fydd ar gau mae Sgwâr Piccadilly (9.00am–10.15am), Heol Pontygwindy (9.30am–10.45am), a'r lôn tua'r dwyrain ar hyd y ffordd rhwng cylchfan Pwll-y-pant a Phont Bedwas (9.00am–11.30am).

Er gwaethaf cau'r ffyrdd hyn, bydd mynediad ar gael rhwng Parc Lansbury a Dolydd Trefore drwy gydol y dydd. Fodd bynnag, mae trigolion yn cael eu cynghori i ddod o hyd i drefniadau parcio eraill oherwydd cyfyngiadau parcio yn Van Road a Heol Pontygwindy.

Hefyd, mae'n bosibl y bydd cau'r ffyrdd dan sylw yn effeithio ar lwybrau ac amseroedd bysiau. Er mwyn sicrhau teithiau esmwyth, mae rhedwyr a gwylwyr yn cael eu hannog i gynllunio eu trefniadau teithio.

Bydd conau'n cael eu gosod ar hyd y llwybr nos Sadwrn er mwyn tynnu sylw trigolion a modurwyr at gau'r ffyrdd.

Rydyn ni'n estyn diolch i drigolion Caerffili am eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad yn ystod y digwyddiad hwn.

Gyda'n gilydd, rydyn ni'n edrych ymlaen at ddigwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows llwyddiannus a chofiadwy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.caerphilly10k.co.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau