News Centre

Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref

Postiwyd ar : 03 Mai 2024

Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cafodd Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili eleni ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Ebrill yng nghanol tref Caerffili.
 
Daeth miloedd o bobl i ganol y dref i fwynhau'r digwyddiad, gyda nifer yr ymwelwyr â Chanolfan Siopa Cwrt y Castell ychydig dros 24,000. Roedd dau gyfleuster Parcio a Cherdded mewn gwahanol ysgolion a gwnaeth llawer o ymwelwyr ddefnydd da ohonyn nhw er mwyn cael mynediad hawdd i'r dref.
 
Yn y digwyddiad roedd dros 150 o stondinau masnach yn ogystal â llu o weithgareddau a digwyddiadau eraill megis arddangosiadau coginio, anifeiliaid ac atyniadau ffair i ddiddanu pawb.
 
Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am yr ŵyl:
 
Dywedodd Marie Cresci’s Cheesecakes, “Diolch am ddigwyddiad rhagorol arall. Fe wnaethom ni werthu pob dim eto, fel y gwnaeth nifer o fasnachwyr eraill.”
 
Dywedodd Pembrokeshire Cheesecake Co., “Cawson ni amser gwych yn yr ŵyl fwyd a hoffen ni ddweud diolch i’r tîm am ddigwyddiad wedi’i drefnu’n dda. Roedd pawb yn broffesiynol, cyfeillgar, a llawer o hwyl ac mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth i ni fel stondinwyr. Hwn oedd fy nigwyddiad cyntaf yng Nghaerffili a byddwn i wrth fy modd yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf.”
 
Dywedodd Little Grandmas Kitchen, “Waw, am ddigwyddiad gwych. O ystyried y tywydd, roedd y dref dan ei sang.”
Dywedodd Chock Shop, “Hoffwn i ddweud diolch yn fawr i'r tîm i gyd am ddiwrnod anhygoel. Cawson ni amser gwych, mewn lleoliad anhygoel!”
 
Meddai’r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio, a Newid yn yr Hinsawdd, “Eleni, roedd cynnydd yn nifer y stondinau a busnesau a oedd yn masnachu yn y dref, felly fe wnaeth hyn ychwanegu mwy o amrywiaeth i ymwelwyr. Roedd ychwanegu Ffos Caerfili wedi dod â rhagor o gyfleoedd i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau eu hunain, felly rydyn ni’n hapus iawn gyda’r digwyddiad a’r adborth cadarnhaol.”
 
Ein digwyddiad nesaf yw Ffair Fai, Bargod yng Nghanol Tref Bargod dydd Sadwrn hwn, 4 Mai. Peidiwch â cholli allan!


Ymholiadau'r Cyfryngau