News Centre

Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran

Postiwyd ar : 30 Ebr 2024

Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Mewn cydweithrediad â’n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadwch Gymru’n Daclus, cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddwy wythnos lwyddiannus o blannu coed gwirfoddol ym mis Mawrth yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran.
 
Fe wnaeth dros 120 o wirfoddolwyr blannu bron i 3,000 o goed ar draws y ddau safle. Cafodd rhywogaethau coed eu dewis i adlewyrchu tarddiad lleol. Yn ogystal, cafodd rhywogaethau a fyddai'n gallu addasu orau i hinsawdd sy'n newid eu nodi. Ymhlith yr amrywiaeth o rywogaethau coed a gafodd eu plannu oedd coed derw, drain gwynion, masarn, sycamorwydd a gwern.
 
Daeth gwirfoddolwyr o ardaloedd pell ac agos i gynorthwyo'r plannu coed gan gynnwys unigolion o’r gymuned leol, cynghorwyr lleol a busnesau lleol gan gynnwys Target Financial Services, DS, Kearns Solicitors, yr Adran Gwaith a Phensiynau, IG, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, CAF Rolling Stock Ltd, Pobl yn Gyntaf Caerffili, Admiral Group, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac RS Group.
 
Mae'r Tîm Datgarboneiddio wedi bod yn gweithio gyda thimau o'r Adrannau Cefn Gwlad, Parciau, Tai, Eiddo ac Isadeiledd i nodi ardaloedd o dir sy'n eiddo i'r Cyngor sy'n addas ar gyfer prosiectau plannu coed er mwyn cyflawni'r ymrwymiad i ddod yn Awdurdod Lleol Sero Net erbyn 2030. Wrth i goed dyfu, maen nhw'n amsugno carbon gan helpu i wrthbwyso ôl troed allyriadau carbon y Cyngor.
 
Dywedodd un o'r gwirfoddolwyr, Matthew Moniford, “Fe wnes i fwynhau’n fawr iawn. Diolch yn fawr iawn am y cyfle. Roedd y tywydd yn ofnadwy pan es i Barc Cwm Darran ac roedd hi mor fwdlyd, ond fe wnes i dal fwynhau ac rydw i'n edrych ymlaen at blannu'r flwyddyn nesaf”.
 
Hoffai’r Tîm Datgarboneiddio ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â sicrhau bod y ddau ddigwyddiad yn llwyddiant, yn enwedig y gwirfoddolwyr a blannodd goed mewn amodau anodd.
 
Diolch yn fawr iawn i Castell Howell am gyfrannu lluniaeth, ac i Robert Price.


Ymholiadau'r Cyfryngau