News Centre

Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu

Postiwyd ar : 30 Ebr 2024

 Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Mae To Me To You Storage Ltd, chwaer-gwmni To Me To You Removals, yn fusnes lleol wedi’i leoli yng Nghaerffili sydd wedi bod ar waith ers 2017, gyda’r elfen storio yn dod i fodolaeth ym mis Chwefror 2022.

Cysylltodd y busnes â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2017 am grant cychwyn busnes ac fe gafodd £500 ei ddyfarnu iddyn nhw i fynd tuag at wefan a logos.

Yn 2021, caniataodd grant Cronfa Ymrymuso'r Gymuned gwerth £9,525 i’r cwmni brynu rhai cynwysyddion i ddechrau cynnig man storio tymor byr, ond wrth i’r galw gynyddu, cafodd To Me To You Storage Ltd ei sefydlu ochr yn ochr â’r cwmni symud dodrefn.

Yn 2023-24, cafodd Grant Cyfalaf gwerth £16,119.92 a Dyfarniad Refeniw o £2,499.50 eu dyfarnu i To Me To You hefyd, gyda’r cyfan wedi’i roi tuag at offer TG, argraffwyr, offer diogelwch, gwefan newydd, ac aelod o staff er mwyn cyrraedd y galw cynyddol.

Ar hyn o bryd, mae'r busnes sydd wedi'i leoli ar Blackbrook Road yng Nghaerffili yn cyflogi 7 o bobl ac mae eu hunedau storio yn costio £25-£30 yr wythnos.

Dywedodd To Me To You, “mae Sally o Dîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Caerffili wedi bod yn wych yn ein helpu ni. Nid oeddwn i'n disgwyl y lefel honno o gymorth, roeddwn i'n meddwl y bydden ni'n cael rhywfaint o gyngor yn unig. Mae’r sicrwydd mae’r cymorth a’r grantiau wedi’i roi i ni hefyd wedi ein galluogi ni i gyflogi staff newydd.”

I gael rhagor o wybodaeth am To Me To You Removals and Storage, ewch i’w gwefan neu e-bostio info@tometoyou-removals.co.uk.

Neu gallwch chi ddod o hyd i To Me To You ar Facebook.

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF.

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220.


Ymholiadau'r Cyfryngau