Datganiad o gyfrifon
Cyngor Bwrdeistref sirol Caerffili
Datganiad o gyfrifon
Hysbysiad Cyhoeddus
Cyd-Bwyllgor Archifau Gwent
Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020
Mae rheoliad 15 (5) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, erbyn 15 Medi 2020, i PWYLLGOR COFNODION AR Y CYD GWENT gyhoeddi ei ddatganiadau cyfrifyddu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020 ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn neu adroddiad a gyhoeddwyd, a roddwyd neu a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae'r datganiadau cyfrifyddu ar ffurf ffurflen flynyddol wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, cyhoeddir y cyfrifon cyn i'r archwiliad ddod i ben. Oherwydd effaith COVID-19, nid yw'r Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn archwilio eto.
Ardystio a chymeradwyo cyfrifon blynyddol ar gyfer 2019-20
Mae rheoliad 15 (1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cydbwyllgor Archifau Gwent lofnodi a dyddio'r cyfrifon (y Datganiad Blynyddol) ac ardystio eu bod yn cyflwyno sefyllfa ariannol Cydbwyllgor Archifau Gwent yn deg ar ddiwedd y flwyddyn ac incwm a gwariant Cydbwyllgor Archifau Gwent am y flwyddyn. Roedd y Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 15 Mehefin 2020.
Mae’r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 ar 10 Mehefin 2020 (http://www.gwentarchives.gov.uk/about-us.aspx?lang=cy-GB).
Mae rheoliad 15 (2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, i'r Cydbwyllgor gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 15 Mehefin 2020.
Serch hynny, nid yw’r Cydbwyllgor wedi gallu cyfarfod i gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol oherwydd afiechyd COVID-19. Cyn gynted y bydd modd i’r Cydbwyllgor gyfarfod, bydd yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ac unrhyw adroddiadau cysylltiedig.
Cytundeb Dinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd
Datganiadau blynyddoedd blaenorol